A-Y o lechyd Rhywiol
A
AFAB/FAAB
Wedi’i roi mewn categori benywaidd ar enedigaeth (Assigned female at birth/Female assigned at birth).
AIDS
Mae AIDS yn gyflwr difrifol lle mae amddiffynfeydd y corff yn erbyn rhai afiechydon yn rhoi’r gorau i weithio. HIV yw’r feirws sy’n achosi AIDS a gellir ei drosglwyddo’n rhywiol. Gallwch amddiffyn eich hun rhag HIV drwy ddefnyddio condom bob tro y byddwch chi’n cael rhyw. Gallech hefyd ddefnyddio PrEP (PrEPARED yng Nghymru | Prosiect PrEP Cymru (IR Cymru)). Nid oes gan bobl sy’n HIV positif AIDS o reidrwydd. I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma neu ewch i wefan y GIG https://www.nhs.uk/conditions/hiv-and-aids/ (Saesneg)
I’r rhai sy’n credu y gallent fod wedi dod i gysylltiad â HIV yn ystod y 72 awr ddiwethaf, mae meddyginiaeth ar gael sy’n gallu atal trosglwyddo HIV ar ôl i’r risg ddigwydd, edrychwch ar yr adran ar “PEPSE”.
Alldaflu
Gwryw: pan fydd dyn yn cyrraedd orgasm mae ei bidyn yn cynhyrchu semen sy’n cynnwys sberm. Gall sberm hefyd fod yn bresennol mewn hylif cyn-alldaflu neu cyn i rywun ddod, pan fydd y pidyn yn galed.
Benyw: gall rhai menywod alldaflu wrth gael orgasm y fagina. Mae hylif clir yn tasgu o chwarennau ger yr wrethra yn ystod cyffro rhywiol dwys neu yn ystod orgasm. Gelwir hyn yn ‘chwistrellu’ er bod hyn fel arfer yn cyfeirio at fwy o hylif a ryddhawyd. Dim ond 6% o fenywod sy’n gallu chwistrellu’n rheolaidd.
Alldaflu Cynnar
Pan fydd bachgen/dyn yn alldaflu (dod) yn rhy fuan neu cyn ei fod yn dymuno. Gall llawer o bethau achosi i hyn ddigwydd, gan gynnwys gorgyffro, pryder am berfformiad, diffyg profiad ac ati.
AMAB/MAAB
Wedi’i roi mewn categori gwrywaidd ar enedigaeth (Assigned male at birth/Male assinged at birth)
Analluedd
Pan nad yw dyn yn gallu cael codiad.
Androgynaidd
Y term sy’n disgrifio person nad yw eu mynegiant o ran rhywedd a/neu eu hunaniaeth yn “fenywaidd” neu’n “wrywaidd” ac fel arfer mae’n seiliedig ar ymddangosiad.
Anffrwythlon
Rhywun nad yw’n gallu atgynhyrchu a chael plant biolegol eu hunain.
Anneuaidd
Term ymbarél i ddisgrifio pobl nad yw eu hunaniaeth rhywedd yn ffitio’n syml i ddewis deuaidd o ‘ddyn’ neu ‘fenyw’. Mae hunaniaethau anneuaidd yn amrywiol a gallant gynnwys pobl sy’n arddel rhai elfennau o hunaniaethau deuaidd, tra bod eraill yn eu gwrthod yn llwyr.
Anrhywiol
Nid yw rhywun sy’n anrhywiol yn cael ei ddenu’n rhywiol at unrhyw un.
Anws
Yr enwau eraill arno yw tîn neu ben-ôl. Yr anws yw’r twll ar ddiwedd y system dreulio lle mae gwastraff solet (pŵ/cachu) yn gadael y corff.
Atal cenhedlu
Dyma’r term am unrhyw ddull sy’n cael ei ddefnyddio i atal beichiogrwydd. I gael mwy o wybodaeth am y gwahanol fathau o atal cenhedlu cliciwch yma.
B
Bachgen/Dyn Traws
Term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun a roddwyd mewn categori rhyw benywaidd adeg eu geni, ond sy’n arddel hunaniaeth bachgen/dyn.
Beichiogrwydd
Yr amser rhwng cenhedlu a geni. Mae beichiogrwydd yn cyfeirio at yr adeg pan fydd wy yn cael ei ffrwythloni ac yn mewnblannu gan ddod yn embryo, sy’n gallu datblygu’n ffetws a gall arwain at enedigaeth fyw babi neu gellir terfynu’r broses cyn y pwynt hwn drwy derfynu beichiogrwydd neu gam-esgor.
Beichiogrwydd Ectopig
Pan fydd wy’n cael ei ffrwythloni y tu allan i’r groth, fel yn y tiwbiau Ffalopaidd. Nid yw beichiogrwydd yn ddiogel y tu allan i’r groth, felly fel arfer mae’n rhaid terfynu beichiogrwydd ectopig.
Beichiogrwydd Heb ei Gynllunio
Beichiogrwydd nad yw wedi’i gynllunio ac sy’n peri gofid i’r person sydd wedi dod yn feichiog. I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.
Blaengroen
Y croen sy’n gorchuddio pen y pidyn.
Blaenlencyndod
Yr oedran rhwng y glasoed a bod yn oedolyn.
Blew Cedor/Blew’r Arffed
Y blew sy’n dechrau tyfu o amgylch yr organau cenhedlu yn ystod y glasoed.
Blow Job
Pan fydd rhywun yn rhoi pidyn yn ei geg er mwyn rhoi pleser i rywun. Gelwir hyn yn ‘rhyw geneuol’ hefyd.
Breuddwydion Gwlyb
Pan fydd person yn alldaflu tra mae’n cysgu ac mae’n rhan naturiol o ddatblygiad rhywiol.
Bronnau
Cânt hefyd eu galw’n frestiau neu tits. Prif ddiben y fron yw rhoi llaeth i fabanod. Byddant yn datblygu, a/neu’n tyfu yn ystod y glasoed.
Byseddu
Pan fydd person yn defnyddio eu bysedd i gyffroi organau rhywiol.
C
Camesgor
Pan ddaw ffetws (baban heb ei eni) allan o’r groth cyn ei fod yn ddigon hen i oroesi y tu allan i gorff ei fam. Mae hefyd yn cael ei alw’n ‘golli babi’.
Canser Serfigol
Gall canser serfigol fod yn glefyd sy’n rhoi bywyd yn y fantol, ond gellir ei drin a’i wella os caiff ei ganfod yn gynnar. Mae canser serfigol ar ei fwyaf cyffredin ymhlith menywod dros 50 oed ond gall effeithio ar fenywod o bob oed.
Cap
Dull atal cenhedlu wedi’i wneud o rwber, sy’n gorwedd wrth geg y groth i atal sberm rhag cyrraedd wyau’r fenyw. Enw arall arno yw ‘Diaffram’.
Ceg y Groth
Gwddf y groth. Mae’n cynnwys llwybrau cul sy’n arwain at y fagina.
Ceilliau
Y ddwy belen o dan y pidyn lle mae sberm yn cael ei gynhyrchu.
Cerrig
Gair arall am geilliau.
Clamydia
Haint cyffredin iawn a drosglwyddir yn rhywiol (STI) sydd, os na chaiff ei drin, yn gallu achosi anffrwythlondeb ymysg merched/menywod. I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.
Clinig GUM
Clinig sy’n cael ei redeg gan y GIG sy’n gallu eich helpu gyda phopeth yn ymwneud ag iechyd rhywiol. Mae triniaeth ar gael am ddim ac mae’n gyfrinachol. I ddod o hyd i’ch clinig lleol cliciwch yma.
Clitoris
Yr organ ar flaen fylfa sy’n cynhyrchu teimladau dwys o bleser rhywiol pan gaiff ei gyffroi.
Cnoad Cariad
Pan fydd person yn sugno neu’n brathu croen person arall yn ysgafn ac yn gadael marc coch/porffor.
Codiad
Pan fydd cyffro rhywiol yn gwneud i bidyn chwyddo a mynd yn galed neu godi.
Coil
Dyfais atal cenhedlu wedi’i gwneud o blastig neu gopr yw coil. Mae hefyd yn cael ei galw’n ddyfais fewngroth, (interuterine device neu IUD) neu ddull atal cenhedlu hirdymor gwrthdroadwy (long acting contracebion neu LARC). Caiff ei rhoi yn y groth/wterws a gall ddiogelu rhag beichiogrwydd am 5-10 mlynedd, yn dibynnu ar y math o ddyfais sydd gennych. I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.
Condom
Gorchudd tenau, rwber sy’n cael ei roi dros y pidyn. Math o ddull atal cenhedlu sy’n amddiffyn rhag beichiogrwydd anfwriadol. Condomau yw’r UNIG ddull atal cenhedlu sy’n amddiffyn rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI). Gallwch chi gael condoms am ddim yma.
Condom Mewnol
Gwain rwber sy’n leinio’r fagina i atal beichiogrwydd neu sy’n leinio’r anws i atal haint a drosglwyddir yn rhywiol. Gellir gosod condomau mewnol rhwng 20 munud a 6 awr cyn i chi gael rhyw. Ni ddylid ailddefnyddio condomau mewnol. I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.
Condomau â Blas
Condomau hwyliog sy’n blasu fel ffrwythau, siocled, neu fintys. Gall condomau hefyd gael rhiciau neu gellir cael rhai o wahanol liwiau.
Croth
Yr enw arall arni yw ‘wterws’. Organ yng nghorff menyw y gall babi dyfu ynddo yw croth.
Cusan Ffrengig
Cusanu sy’n golygu rhoi eich tafodau yng nghegau eich gilydd.
Cusanu
Pan fydd dau berson yn rhoi eu cegau at ei gilydd er mwyn cael pleser.
Cwestiynu
Y broses o ystyried eich cyfeiriadedd rhywiol a/neu eich hunaniaeth rhywedd chi eich hunan.
Cwiar
Gair arall am ‘cyfunrywiol’ neu aelod o’r gymuned LHDTCIA+.
Cydryweddol
Gair i ddisgrifio rhywun y mae ei hunaniaeth rhywedd yr un peth â’r categori rhyw y cafodd ei roi ynddo adeg eu geni. Mae’r term ‘non-trans’ yn cael ei ddefnyddio hefyd yn Saesneg ond mae ‘cisgender’ yn derm mwy cynhwysol.
Cydsyniad
Mae cydsyniad yn golygu caniatâd. Dylid rhoi cydsyniad bob amser cyn cael unrhyw gyfathrach rhywiol. I gael mwy o wybodaeth am gydsyniad rhywiol cliciwch yma.
Cyfathrach Rywiol
Cyswllt rhywiol rhwng unigolion, ac mae’n cynnwys treiddio.
Cyfeiriadedd Rhywiol
Atyniad emosiynol, rhamantus a/neu rywiol person tuag at berson arall.
Cyfrinachol
Os yw rhywbeth yn gyfrinachol yna mae’n gyfrinach. Hyd yn oed os ydych o dan 16 oed mae gennych yr un hawliau cyfrinachedd ag oedolyn. Mae hyn yn golygu na ddylai meddygon a nyrsys drosglwyddo unrhyw wybodaeth am eich ymweliad(au). Efallai y bydd angen iddyn nhw rannu gwybodaeth os ydyn nhw’n credu eich bod mewn perygl difrifol ond dylent bob amser drafod y mater gyda chi yn gyntaf.
Cyfunrhywiol
Person sy’n cael eu denu at bobl o’r un rhyw.
Cyffro Rhywiol
Enwau arall arno yw ‘troi ymlaen’ neu deimlo’n ‘horni’. Mae rhywbeth yn digwydd i wneud i chi deimlo mewn hwyliau i gael rhyw, gallech fod ar eich pen eich hun neu gyda phartner pan fydd hyn yn digwydd.
Cynllunio Teulu
Y rhwydwaith o glinigau lle y gallwch fynd i gael cyngor cyfrinachol am ddim am ryw a dulliau atal cenhedlu. I ddod o hyd i’ch clinig lleol cliciwch yma.
Ch
Chemsex
Mae rhai pobl yn defnyddio cyffuriau cyn/yn ystod rhyw (‘chemsex’) i wella dwysedd rhywiol a rhoi hwb i hyder wrth gael rhyw. Mae pobl sy’n cymryd rhan mewn chemsex mewn perygl mawr o gael STI. I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.
Chwarren Brostad
Chwarren o faint cneuen Ffrengig ychydig yn is na phledren dyn. Mae’n darparu’r hylif sydd ei angen i roi maeth i sberm a’i gludo.
Chwistrellu
Gweler ‘alldaflu’ (i fenywod).
D
Dafadennau
Tyfiannau bach ar yr organau cenhedlu sy’n cael eu hachosi gan HPV. Gweler “Dafadennau Cenhedlol”. Gellir dod o hyd i ddafadennau hefyd ar rannau eraill o’r corff fel y dwylo neu’r traed.
Dafadennau gwenerol
Tyfiant bach ar neu o amgylch yr organau cenhedlu, sy’n cael ei achosi gan feirws. Ni ddylech gael rhyw heb ddiogelwch os oes gennych ddafadennau gwenerol. I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.
Datblygiad Rhywiol
Term arall am ‘y glasoed’. Yr amser pan wnaeth eich corff ddatblygu’n rhywiol.
Deurywiol
Rhywun sy’n cael ei ddenu at ddynion a merched.
Diffrwythloni
Pan fydd rhywun yn cael llawdriniaeth i’w hatal rhag beichiogi neu i atal cael eu partner yn feichiog. I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.
Dildo
Pidyn artiffisial wedi’i wneud o rwber neu blastig y mae pobl yn ei ddefnyddio i roi pleser rhywiol iddyn nhw eu hunain, neu eu partner rhywiol.
Dirgrynwr (Vibrator)
Tegan rhyw sy’n cael ei weithredu gan fatri sy’n gallu gwella profiad rhywiol.
Dod Allan
Pan fydd person yn dweud yn gyhoeddus ei fod yn hoyw (neu’n rhan o’r gymuned LHDTC+).
Dod/Cum
Term bratiaith am orgasm neu semen.
Dolur Annwyd
Dolur poenus neu lidol sy’n edrych fel crachen, fel arfer ger y geg neu’r trwyn, a achosir gan y feirws Herpes. Mae doluriau annwyd yn heintus o’r adeg pan fydd rhywun yn dechrau teimlo’r pinnau bach tan fod y dolur wedi gwella’n llwyr. NI ddylech gusanu unrhyw un tra bydd gennych ddolur annwyd, yn enwedig plant a babanod. NI ddylech gael rhyw geneuol nes bod eich dolur annwyd wedi diflannu’n llwyr neu efallai y byddwch yn rhoi herpes yr organau cenhedlu i’ch partner. I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.
Dysfforia Rhywedd
Term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio sefyllfa pan fydd rhywun sy’n profi anesmwythder neu drallod oherwydd gwrthdaro rhwng eu hunaniaeth rhywedd a’r categori rhyw y cawsant eu rhoi ynddo adeg eu geni. Hwn hefyd yw’r diagnosis clinigol ar gyfer rhywun nad yw’n teimlo’n gyfforddus gyda’r categori rhyw y cawsant ei roi ynddo adeg eu geni.
E
Embryo
Embryo yw’r enw ar gynhyrchion beichiogrwydd yn wythnosau 4-5 ac yna caiff ei alw’n ffetws ar ôl wythnos 8. I gael mwy o fanylion am ddatblygiad embryo drwy gydol beichiogrwydd gweler yma (Saesneg).
Endometriosis
Clefyd lle mae’r meinwe sydd fel arfer yn leinio’r groth/wterws yn tyfu ar organau eraill y tu allan iddo. Gall achosi poen a phroblemau ffrwythlondeb. I gael mwy o wybodaeth am Endometriosis cliciwch yma.
Enwaediad
Enwaediad yw pan fydd meddyg yn cael gwared ar flaengroen y pidyn yn ystod llawdriniaeth. Gellir gwneud y llawdriniaeth ar fabanod am resymau crefyddol, ond gall ddigwydd ar unrhyw adeg yn ystod bywyd bachgen os oes problem gyda’r blaengroen. Mae’n gwbl ddiogel ac nid yw’n gwneud unrhyw wahaniaeth i fywyd rhywiol y person.
Erthyliad
Erthyliad yw’r broses feddygol o ddod â beichiogrwydd i ben, weithiau caiff ei alw’n derfynu beichiogrwydd. Mae erthyliad ar gael yn y DU hyd at 24 wythnos o feichiogrwydd ac mae ar gael i unrhyw fenyw faint bynnag ei hoedran. Bydd 1 o bob 3 menyw yn y DU wedi cael erthyliad erbyn iddyn nhw gyrraedd 45 oed.
F
Fagina
Y llwybr sy’n rhedeg o organau cenhedlu menyw hyd at ei chroth.
Faginosis Bacteriol
Haint cyffredin iawn yn y fagina sy’n gallu achosi newid i’ch rhedlif (disacharge) arferol. Gall y rhedlif fod yn ddrewllyd, (sy’n cael ei ddisgrifio’n aml fel arogl pysgod) gall ei ansawdd newid (gall fod yn fwy rhedegog) neu gall newid lliw.
Fellatio
Enw arall am blow job. Pan fydd rhywun yn rhoi pidyn ei bartner yn ei geg er mwyn ei gyffroi’n rhywiol.
Fylfa
Gair arall am organau cenhedlu allanol benyw.
Ff
Fferyllydd
Person sy’n gweithio mewn fferyllfa ac sy’n gymwys i baratoi meddyginiaethau a rhoi rhywfaint o gyngor meddygol.
Ffetws
Yr enw meddygol am fabi yn y groth rhwng yr wythfed wythnos o feichiogrwydd a’r enedigaeth.
Ffrwythlondeb
Os oes gan berson system atgenhedlu iach a’i fod yn gallu beichiogi neu gynhyrchu sberm, mae’n ffrwythlon.
Ffrwythloni
Os bydd sberm yn mynd i mewn i’r fagina, gall deithio i fyny ceg y groth at yr wy. Os bydd yr wy yn cael ei ffrwythloni gan sberm gall embryo ddechrau tyfu – os bydd hyn yn digwydd mae’r fenyw yn beichiogi.
Ffwc
Gair di-chwaeth am gael rhyw.
G
Glasoed
Yr adeg pan fydd cyrff pobl yn dechrau newid ac aeddfedu’n rhywiol. Fel arfer, mae’r glasoed yn dechrau rhwng 9 a 13 oed ond mae rhai pobl yn llawer iau neu’n hyn. Mae’r glasoed yn cymryd amser hir ac yn effeithio ar bobl yn emosiynol yn ogystal â chorfforol. Mae’r glasoed yn cael ei sbarduno gan hormonau penodol, neu gemegau, y tu mewn i’n cyrff.
Godineb
Pan fydd gwr neu wraig yn cael rhyw gyda rhywun y tu allan i’w priodas.
Gonorea
Haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI) y gellir ei drin yn hawdd gyda gwrthfiotigau ond gall fod yn ddifrifol os na chaiff ei drin. I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.
Gradd X
Term sy’n cael ei ddefnyddio am fideos/ffilmiau lle mae’r cynnwys yn addas i oedolion (dros 18 oed) yn unig am ei fod yn cynnwys elfennau dinoethol neu’n dreisgar iawn.
G-sbot
Rhan o’r fagina yr honnir ei bod yn rhoi mwy o bleser rhywiol.
Gwain atal cenhedlu
Gair arall am gondom.
Gweinlyfu / Cunnilingus
Pan fydd person yn defnyddio eu ceg i gyffroi organau rhywiol menyw. Perfformio rhyw geneuol ar y fylfa.
Gwrthfiotigau
Meddyginiaeth sydd wedi’i chynllunio i ladd bacteria niweidiol.
Gwrthgyrff
Proteinau sy’n cael eu cynhyrchu gan eich corff sy’n ymladd bacteria a feirysau.
Gwyryf
Person sydd erioed wedi cael rhyw.
H
Haint
Salwch a achosir gan germ/bacteria neu feirws.
Haint Burum
Yr enw arall arno yw ‘y llindag’. Haint ffwngaidd yw haint burum sy’n effeithio ar bob rhyw. Gall achosi llid, rhedlif a chosi o amgylch y fagina, y fylfa, pen y pidyn a/neu o dan y blaengroen. Nid yw’n ddifrifol ond gall fod yn anghyfforddus felly dylech gael meddyginiaeth i gael gwared arno. Nid yw’n STI ond gellir ei sbarduno gan ryw a’i drosglwyddo drwy gael rhyw.
Er mwyn lleddfu aflonyddwch ac atal y llindag rhag dychwelyd:
- Defnyddiwch ddwr ac eli lliniarol (e.e., eli E45 neu eli dyfrol) yn hytrach na sebon i olchi’r rhan yr effeithir arno
- Sychwch yn iawn ar ôl golchi
- Cymerwch gawodydd yn lle bath
- Ceisiwch osgoi rhyw nes bod y llindag wedi clirio. Os ydych yn cael rhyw defnyddiwch gondom i’w atal rhag lledaenu (ond, gall eli gwrth-ffwngaidd dorri condomau fel y dylech osgoi cael rhyw tra byddwch yn defnyddio’r eli).
Hand Job
Pan fydd person yn cyffroi pidyn gan ddefnyddio ei law.
Hanes Rhywiol
Yr holl bobl rydych wedi cael perthynas rywiol â nhw yn ystod eich bywyd.
Hard-on
Gair arall am godiad.
Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol (STI)
Heintiau sy’n cael eu trosglwyddo yn ystod gweithgarwch rhywiol. Mae gwahanol fathau o’r heintiau hyn, ac mae rhai ohonynt yn gyffredin ac yn hawdd eu trin, ac mae eraill yn fwy difrifol. Yr unig ffordd o ddiogelu rhag STI yw drwy ddefnyddio condomau. I gael mwy o wybodaeth am y gwahanol heintiau, cliciwch yma.
Hepatitis A
Haint sy’n effeithio ar yr afu sy’n cael ei ledaenu drwy ysgarthion (pw) person sydd wedi’u heintio. Nid yw’n gyffredin yn y DU ond mae rhai grwpiau o bobl mewn mwy o berygl, a gallent gael cynnig brechiad. I gael mwy o wybodaeth am yr haint, cliciwch yma.
Hepatitis B
Haint sy’n effeithio ar yr afu sy’n cael ei ledaenu drwy waed halogedig a hylifau corfforol person sydd wedi’u heintio. Gall rhai grwpiau o bobl fod mewn mwy o berygl o ddal Hepatitis B ac maent yn gymwys i gael eu brechu. I gael mwy o wybodaeth am yr haint hwn, cliciwch yma (Saesneg).
I archebu pecyn hunanbrofi gwaed sy’n profi am HIV, Syffilis, Hepatitis B, a Hepatitis C, yn syth i’ch cartref cliciwch yma.
Hepatitis C
Haint sy’n effeithio ar yr afu/iau sy’n cael ei ledaenu drwy waed halogedig person sydd wedi’i heintio. Gellir ei drosglwyddo drwy lawer o wahanol ffyrdd gan gynnwys rhyw heb ddiogelwch, rhannu offer cymryd cyffuriau, rhannu brwsys dannedd a raseli ac ati. Mae hepatitis C yn gyflwr y gellir ei wella, ac a all arwain at gymhlethdod difrifol os na chaiff ei drin. Ar hyn o bryd nid oes brechiad ar gael yn erbyn Hepatitis C ond mae llawer o driniaethau ar gael, ac nid yw’r triniaethau’n cael fawr ddim sgil-effeithiau erbyn hyn. I ddarganfod mwy am Hepatitis C cliciwch yma (Saesneg).
I archebu pecyn hunanbrofi gwaed sy’n profi am HIV, Syffilis, Hepatitis B, a Hepatitis C, yn syth i’ch cartref cliciwch yma.
Herpes
Feirws a all arwain at ddoluriau ar yr wyneb neu organau cenhedlu. Caiff ei drosglwyddo drwy weithgareddau rhywiol, neu gysylltiad agos. Ni wyddom a oes unrhyw wellhad o Herpes a byddwch bob amser yn cario’r feirws, ond gellir ei drin. I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.
Heterorywiol
Person sy’n cael ei ddenu at bobl o’r rhyw arall.
HIV
Feirws Imiwnoddiffygiant Dynol. Gall HIV gael ei drosglwyddo’n rhywiol ac mae’n feirws sy’n niweidio’r system imiwnedd. Gall pobl sy’n cael diagnosis o HIV ddisgwyl byw bywydau iach gyda rhychwant bywyd tebyg i bobl heb HIV, maent hefyd yn llai tebygol o drosglwyddo’r feirws i bartneriaid yn y dyfodol. Mae pobl sydd heb gael diagnosis mewn perygl mawr o drosglwyddo’r feirws i eraill, ac efallai y byddant yn sâl yn gorfforol gyda’r feirws. Os na chaiff ei drin, gall y feirws HIV arwain at gyflwr a elwir yn AIDS. Mae profi’n rheolaidd er mwyn cael diagnosis cynnar o’r feirws hwn yn helpu i amddiffyn eich hun ac eraill rhag niwed.
Mae gwahanol fathau o amddiffyniad rhag HIV: gwisgo condom, PrEP, a chael prawf yn rheolaidd. I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.
Os credwch y gallech fod wedi dod i gysylltiad â HIV o fewn y 72 awr ddiwethaf, mae Proffylacsis Ôl-Amlygiad (PEPSE) ar gael i chi o’ch Clinig Iechyd rhywiol lleol neu Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys. Meddyginiaeth drwy’r geg yw hon y gallwch ei chymryd i leihau eich siawns o ddal HIV ar ôl dod i gysylltiad posibl. Os ydych yn pryderu, neu os ydych yn credu y gallai fod angen y feddyginiaeth hon arnoch, peidiwch ag oedi cyn siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Y cynharaf y byddwch yn dechrau’r feddyginiaeth hon ar ôl dod i gysylltiad posibl, y mwyaf tebygol yw hi y bydd y feddyginiaeth yn effeithiol.
I archebu pecyn hunanbrofi gwaed sy’n profi am HIV, Syffilis, Hepatitis B, a Hepatitis C, yn syth i’ch cartref cliciwch yma.
Homoffobia
Casineb diangen tuag at bobl gyfunrywiol.
Hormonau
Cemegau sy’n digwydd yn naturiol sy’n arwain y newidiadau sy’n digwydd yn y corff. Mae hormonau’n achosi i’r glasoed ddechrau a gall achosi newidiadau corfforol ac emosiynol.
Horni
Teimlo’r awydd i gael rhyw.
Hoyw
Gair arall am ‘cyfunrhywiol’. Rhywun sy’n cael ei ddenu’n rhywiol at berson o’r un rhyw.
HPV
Feirws Papiloma Dynol. Mae llawer o fathau o HPV ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ddiniwed ond gallant achosi i dyfiant (dafadennau) ffurfio ar wahanol rannau o’r corff. Mae hyn yn cynnwys dafadennau ar yr organau rhywiol neu hyd yn oed ddafadennau ar y dwylo a’r traed a gaiff eu hachosi gan fathau o HPV. Gall rhai mathau o HPV arwain at newidiadau i gelloedd ceg y groth. Bydd menywod yn cael cynnig prawf HPV fel rhan o’u rhaglen sgrinio serfigol. Heblaw am hyn, nid oes prawf ar gyfer HPV yn cael ei gynnal fel mater o drefn, ac mae pobl yn cael diagnosis bod y feirws hwn arnyn nhw ar sail presenoldeb symptomau. Os oes gennych ddafaden, bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gallu gwneud diagnosis o hyn ac argymell y driniaeth orau i chi.
Mae brechlyn HPV ar gael drwy’r GIG yn yr ysgol i atal canser ceg y groth a mathau eraill o ganser. Os nad ydych wedi cael y brechlyn hwn drwy’r ysgol, gallech fod yn gymwys i’w gael yn eich clinig iechyd rhywiol lleol. Dylai dynion sy’n cael rhyw gyda dynion gael cynnig y brechlyn hwn yn ystod sgrinio iechyd rhywiol. Os ydych wedi cael prawf drwy ein gwefan, gallwch ddal i gysylltu â’ch gwasanaeth iechyd rhywiol lleol i gael mynediad i’r brechiad hwn. I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.
Hunaniaeth Rhywedd
Ymdeimlad mewnol rhywun o’u rhywedd nhw eu hunain. Gallai hynny fod yn wrywaidd, yn fenywaidd neu’n rhywbeth arall (fel anneuaidd).
Hylif iro (neu “lube”)
Hylif y gallwch ei ddefnyddio i wneud rhyw yn haws ac yn fwy o hwyl. Gall rhai hylfiau iro niweidio effeithiolrwydd condomau felly gwnewch yn siwr eich bod yn defnyddio hylif iro sy’n seiliedig ar ddwr gyda chondomau a darllenwch y cyfarwyddiadau bob amser.
Hymen
Yr haen denau o groen sy’n gorchuddio’r fynedfa i fagina menyw yn rhannol. Gellir ei dorri drwy gael rhyw, defnyddio tampon, neu weithgareddau chwaraeon penodol.
I
IUD
Enw arall ar ddull atal cenhedlu’r coil yw’r Ddyfais Fewngroth (IUD). Mae’r IUD wedi’i wneud o blastig neu gopr. Caiff ei gosod yn y groth ac mae’n atal beichiogrwydd. Mae’r IUD yn para hyd at 5 mlynedd ac mae 99% yn effeithiol o ran atal beichiogrwydd. I gael mwy o wybodaeth am IUD cliciwch yma.
IUS
Dyfais blastig fach siâp T sy’n cynnwys hormon yw’r System Fewngroth (IUS). Caiff ei rhoi yn y groth ac mae’n gweithio am 5 mlynedd. Mae’r IUS dros 99% yn effeithiol o ran atal beichiogrwydd. I gael mwy o wybodaeth am IUS cliciwch yma.
J
Joni
Gair arall am ‘condom’.
L
Labia
Fflapiau o groen ar y naill ochr i fagina menyw.
Lesbian
Menyw sy’n cael eu denu at fenywod eraill.
Levonelle
Enw ar ddull atal cenhedlu brys a elwir yn fwy cyffredin yn bilsen y bore wedyn neu bilsen argyfwng.
LHDTC+
Yr acronym ar gyfer lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol, cwiar neu gwestiynu +.
Libido
Gair arall am ysfa rywiol rhywun.
Ll
Llau Cedor
‘Crabs’ yn Saesneg. Llau sy’n byw yn y blew cedor sy’n gallu lledaenu o un person i’r llall yn ystod rhyw neu gyswllt agos.
Llen Ddeintyddol
Dalen fach o latecs sy’n gweithredu fel rhwystr rhwng y fagina neu’r anws a’r geg yn ystod rhyw geneuol. Cliciwch yma (Saesneg) i gael gwybod sut i greu llen ddeintyddol o gondom.
Llosgach
Pan fydd pobl sy’n perthyn (h.y., brodyr a chwiorydd) yn cael rhyw gyda’i gilydd. Mae llosgach yn anghyfreithlon yn y DU ac mae’n fath o gam-drin plant. Ewch i Survivors Trust (Saesneg) i gael cymorth os yw hyn wedi effeithio arnoch chi.
Llyfu Allan
Pan fydd person yn defnyddio ei geg i gyffroi fylfa a fagina – gweler “gweinlyfu/cunnilingus”
M
Mastyrbio
Cyffwrdd neu gyffroi eich organau cenhedlu eich hun neu rywun arall am bleser rhywiol. Mae mastyrbio yn naturiol ac yn ffordd normal iawn o archwilio eich corff eich hun. Yr enwau eraill arno yw wancio.
Menopos
Yr adeg pan fydd y mislif yn dod i ben (fel arfer rhwng 45 a 50 oed).
Merch/Menyw Draws
Term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun a roddwyd mewn categori rhyw gwrywaidd adeg eu geni, ond sy’n arddel hunaniaeth menyw ac yn byw fel merch/menyw.
Mislif
Y gair meddygol am “amser y mis”. Pan fydd merch yn cyrraedd y glasoed mae’n gwaedu bob mis (mislif). Mae’r gwaedu’n digwydd pan nad yw’r wy yn cael ei ffrwythloni ac yn gadael y fagina gyda leinin y groth. Gall y gwaed fod yn drwchus a gallai fod yn lliw coch llachar neu frown. Mae hyn fel arfer yn digwydd unwaith y mis ond gall fod ar gyfnodau afreolaidd i rai pobl oherwydd meddyginiaeth/atal cenhedlu a rhythm arferol eu corff. Os yw eich mislif yn afreolaidd a’ch bod yn ansicr o’r achos, siaradwch â’ch meddyg teulu.
Mislif Afreolaidd
Mae mislif afreolaidd yn fislif sy’n newid bob mis ac nad ydynt yn digwydd bob 28 diwrnod. Caiff y mislif ei reoli gan hormonau ac mae’r rhai afreolaidd fel arfer yn rhan o’r newid arferol sy’n digwydd i bobl ifanc yn eu harddegau. Gall gwahanol fathau o ddulliau atal cenhedlu hefyd achosi mislif afreolaidd.
N
Niwtral o ran Rhywedd
Disgrifiad o gyfleusterau y gall unrhyw berson eu defnyddio beth bynnag fo’u rhyw (e.e., toiledau niwtral o ran rhywedd). Gellir defnyddio’r term hefyd i ddisgrifio person nad yw’n cydymffurfio ag unrhyw ryw sydd wedi’i greu yn gymdeithasol.
O
Oedran Cydsynio
Yr oedran y mae’r gyfraith yn nodi ei bod yn gyfreithlon i chi gael rhyw. Yn y DU yr oedran cyfreithiol yw 16 oed, yng Ngogledd Iwerddon mae’n 17.
Oeraidd
Gair am rywun nad yw’n gallu cael ei gyffroi’n rhywiol.
Oestrogen
Un hormon benywaidd sy’n rheoli atgynhyrchu.
Ofarïau
Ofarïau yw’r chwarennau atgenhedlu benywaidd. Maen nhw’n cadw ac yn datblygu wyau ac yn gwneud yr hormonau oestrogen a phrogesteron.
Ofyliad
Pan fydd yr ofarïau’n rhyddhau wy yn barod i’w ffrwythloni. Mae hyn fel arfer yn digwydd hanner ffordd drwy gylch y mislif. Er enghraifft, os oes gan fenyw gylch mislif o 28 diwrnod, bydd ofyliad yn digwydd tua diwrnod 14 yn ei chylch.
Organau cenhedlu
Organau atgenhedlu allanol dynion a menywod.
Orgasm
Uchafbwynt pleser rhywiol. Mae orgasm yn wahanol i bawb ac nid yw pawb yn cael orgasm bob tro y byddan nhw’n cael rhyw.
P
Panrywiol
Cyfeiriadedd rhywiol, rhamantus a/neu emosiynol tuag at bobl o fwy nag un rhywedd. Cânt eu denu at berson waeth beth fo’u rhyw biolegol, rhywedd, neu hunaniaeth rhywedd.
Pedoffilia
Pan fydd oedolyn yn cael rhyw anghyfreithlon gyda phlentyn o dan 16 oed.
PEPSE
Mae PEPSE neu “PEP” yn sefyll am proffylacsis ôl-gysylltiad ac mae ar gael ar y GIG i bobl sy’n credu eu bod wedi dod i gysylltiad â HIV. Mae ar gael i unrhyw un sy’n credu y gallen nhw fod wedi dod i gysylltiad â HIV o fewn y 72 awr ddiwethaf. Gallwch gael PEPSE drwy fynd i’ch clinig iechyd rhywiol lleol neu drwy fynd i Uned Damweiniau ac Achosion Brys unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Meddyginiaeth drwy geg yw hon yr ydych yn ei chymryd am 28 diwrnod a gall eich atal rhag cael HIV hyd yn oed ar ôl dod i gysylltiad â’r haint. Os nad ydych yn siwr, siaradwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, a bydd yn cynnal asesiad gyda chi i benderfynu beth yw’r opsiynau triniaeth gorau i chi. Peidiwch byth â bod ofn gofyn am PEPSE gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol, hyd yn oed os nad oes angen y feddyginiaeth arnoch ar ôl yr asesiad, mae’n well bod yn siwr.
Pidyn
Yr organ rywiol wrywaidd.
Pidyn Llipa
Pan fydd pidyn yn ei gyflwr naturiol: meddal, a llipa.
Pilsen Argyfwng
Mae’r bilsen argyfwng yn fath o ddull atal cenhedlu sy’n gallu atal beichiogrwydd yn y rhan fwyaf o achosion os caiff ei defnyddio o fewn 5 diwrnod (120 awr) o gael rhyw heb ddiogelwch. Gellir cael y bilsen argyfwng am ddim. I gael mwy o wybodaeth am ddulliau atal cenhedlu brys, cliciwch yma.
Pilsen Gyfunol
Mae’r bilsen gyfunol neu’r “bilsen” yn bilsen atal cenhedlu sy’n atal beichiogrwydd. Mae’r bilsen hon yn cynnwys fersiynau synthetig o’r hormonau Oestrogen a Progesteron. O’i chymryd yn gywir, mae’r math yma o bilsen dros 99% yn effeithiol o ran atal beichiogrwydd. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch yma.
PMS/PMT
Syndrom Cyn-fislif/Tensiwn Cyn-fislif. Mae’r ddau yn dermau i ddisgrifio’r newidiadau mewn hwyliau a achosir gan newidiadau hormonaidd yn y dyddiau sy’n arwain at y mislif.
Pornograffi (Porn)
Ffilmiau, fideos, llyfrau, neu luniau sydd â’r bwriad o godi chwant rhywiol. I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.
Prawf Beichiogrwydd
Mae prawf yn dangos a ydych yn feichiog ai peidio. Gellir prynu’r profion hyn o fferyllydd neu o’r archfarchnad. Gallwch hefyd gael mynediad at y profion hyn am ddim trwy fynd i’ch clinig iechyd rhywiol lleol, neu weld eich meddyg teulu. Mae’r bocs fel arfer yn cynnwys ffon rydych chi’n ei rhoi yn eich wrin (pi-pi). Mae’r prawf yn canfod hormon o’r enw Gonadotropin Corionig Dynol (HCG) sydd ond yn eich system os ydych yn feichiog. Cofiwch ddarllen y cyfarwyddiadau’n ofalus.
Prawf ceg y groth
Mae prawf ceg y groth (neu Sgrinio Serfigol) yn brawf i ganfod newidiadau cynnar yn eich iechyd serfigol. Mae sbecwlwm (offeryn bach metel neu blastig) yn cael ei roi yn y fagina i gymryd celloedd o geg y groth. Nid yw’r prawf yn boenus ond gallai fod ychydig yn anghyfforddus. Dylai menywod gael y prawf bob 5 mlynedd rhwng 25 a 64 oed a chânt eu gwahodd drwy lythyr gan y GIG.
Prawf gwaed
Cymerir ychydig o ddiferion gwaed a byddant yn cael eu hanfon i labordy i’w profi. I archebu pecyn hunanbrofi gwaed sy’n profi am HIV, Syffilis, Hepatitis B, a Hepatitis C, yn syth i’ch cartref cliciwch yma.
PrEP
Proffylacsis cyn-gysylltiad. Mae PrEP yn gyffur sydd ar gael ar y GIG i bobl sydd mewn mwy o berygl o gael HIV. O’i gymryd yn gywir, mae PrEP yn lleihau’r siawns o gael HIV i sero. Fodd bynnag, nid yw cymryd PrEP yn eich atal rhag dal heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol (STI), felly dylech barhau i ddefnyddio condomau. I gael mwy o wybodaeth am PrEP cliciwch yma. Gallwch chi gael condoms am ddim yma.
Problemau Ffrwythlondeb
Os nad yw person yn gallu beichiogi, neu gynhyrchu sberm iach, efallai y bydd ganddynt broblem ffrwythlondeb. Mae gwahanol fathau o broblemau ffrwythlondeb ond gall meddygon drin llawer ohonynt. Gall rhai heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI) arwain at broblemau ffrwythlondeb os na chânt eu trin.
Profion Sgrinio Serfigol
Mae sgrinio serfigol (sydd hefyd yn cael ei alwn ‘brawf ceg y groth’) yn brawf i atal canser drwy wirio iechyd ceg y groth ymysg menywod. Caiff sbecwlwm (offeryn bach metel neu blastig) ei roi y tu mewn i’r fagina i gymryd celloedd o geg y groth. Nid yw’r prawf yn boenus ond gall fod ychydig yn anghyfforddus. Dylai menywod gael y prawf bob 3 i 5 mlynedd rhwng 25 a 64 oed a chânt eu gwahodd drwy lythyr gan y GIG.
Proffylactig
Gair hen ffasiwn am gondom.
R
Rimming
Pan fydd person yn defnyddio ei geg a’i dafod i gyffroi/rhoi pleser drwy anws person arall. Weithiau gall arwain at heintiau difrifol yn y perfedd a gallwch hefyd ddal Hepatitis. Gallwch atal trosglwyddo STI neu heintiau eraill drwy ddefnyddio condom fel llen ddeintyddol. Gweler yr adran ar sut i droi condom yn llen ddeintyddol.
Rh
Rhagchwarae
Unrhyw fath o weithgarwch rhywiol sy’n arwain at gyfathrach rywiol ond nad yw’n cynnwys cyfathrach rywiol.
Rhagenw
Dyma’r geiriau a ddefnyddiwn i ddisgrifio rhywedd person, fel ‘fe/fo/ef’, ‘hi’. Mae’n well gan rai pobl i eraill gyfeirio atyn nhw mewn iaith niwtral o ran rhywedd a defnyddio rhagenwau fel ‘nhw/eu/hwy’ neu ‘ze/zir’.
Rhedlif
Hylif sy’n dod allan o’r pidyn neu fagina. I bobl â fagina, mae rhedlif o’r fagina yn normal a bydd yn digwydd o’r glasoed tan y menopos. Caiff ei gynhyrchu gan chwarennau bach yn y fagina a cheg y groth. Bydd yn newid yn ystod y mis a gall wneud rhyw yn fwy pleserus. Os oes lliw anarferol neu arogl annymunol i’r rhedlif, dylech fynd i weld eich meddyg teulu neu glinig iechyd rhywiol lleol rhag ofn bod gennych haint. I bobl sydd â phidyn, nid yw rhedlif o’r pidyn yn normal ac mae’n eithaf tebygol o fod yn arwydd o haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI). Gorau po gyntaf y byddwch yn mynd i weld rhywun am hyn. I ddod o hyd i’ch clinig lleol cliciwch yma.
Rhyngrywiol
Mae rhyngrywiol yn derm sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o sefyllfaoedd lle mae person yn cael ei eni gyda system atgenhedlu neu anatomi rhywiol nad yw’n system ‘gwrywaidd’ na ‘benywaidd’. Gall babanod a phlant rhyngrywiol gael llawdriniaeth a fydd yn golygu y byddant yn cyd-fynd â syniadau deuaidd o ‘wrywaidd’ a ‘benywaidd’.
Rhyw Diamddiffyn
Cael rhyw heb ddefnyddio unrhyw gondomau neu ddulliau atal cenhedlu a all arwain at feichiogrwydd neu ddal haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI).
Rhyw Geneuol
Defnyddio’r geg a’r tafod i roi pleser a chyffroi organau cenhedlu person. Mae dulliau atal cenhedlu ar gael i osgoi dal heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs) drwy ryw geneuol, gan gynnwys condomau, a llenni deintyddol.
Rhyw Seiber
Siarad am ryw gyda rhywun ar y rhyngrwyd, mewn ystafell sgwrsio, ar y cyfryngau cymdeithasol, mewn negeseuon testun, neu drwy e-bost. I gael gwybodaeth am ddiogelwch ar-lein cliciwch yma.
Rhyw yr Anws
Mae’n ymwneud â chyffroi’r anws pan fydd pidyn person (bys, neu degan rhyw) yn treiddio i rectwm eu partner. Gall pobl, waeth beth fo’u rhyw, ddewis cael rhyw yr anws, mae pobl eraill yn dewis peidio â gwneud hynny – eich dewis chi yn llwyr yw hyn.
Gall fod mwy o risg o ddal haint drwy gael rhyw yr anws na thrwy fathau eraill o ryw oherwydd bod leinin y rectwm yn amsugno haint yn hawdd. Dylech ddefnyddio condom bob tro. Mae defnyddio hylif iro (lube) yn lleihau’r siawns o rwygo leinin y rectwm. I archebu condomau a hylif iro am ddim cliciwch yma (Saesneg).
Rhywiaeth / Rhagfarn ar Sail Rhyw
Y gred bod un rhyw neu rywedd yn well nag un arall. Neu weithredoedd ac agweddau sy’n stereoteipio, yn rhagfarnu, neu’n gwahaniaethu yn erbyn pobl ar sail eu rhyw yn unig neu eu rhywedd canfyddedig.
S
Sampl o Wrin
Pan fyddwch chi’n gwneud pi-pi mewn potel ac yn ei roi i weithiwr gofal iechyd proffesiynol i’w archwilio am haint. Caiff hwn ei ddefnyddio i brofi dynion am Clamydia, ond caiff swab ei ddefnyddio ar gyfer profion Clamydia i fenywod. I archebu pecyn profi gartref sy’n profi am Clamydia cliciwch yma.
Sberm
Y celloedd atgenhedlol sy’n cael eu cynhyrchu yn y ceilliau.
Semen
Yr hylif sy’n cynnwys celloedd sberm. Daw semen allan o’r pidyn yn ystod y broses alldaflu.
Sgrotwm / Cwd
Y sach o groen sy’n dal y ceilliau.
Shag
Gair arall am gael rhyw.
Smegma
Y sylwedd gwyn cawslyd sy’n cael ei gynhyrchu gan y chwarren o dan y blaengroen.
Stereoteip o ran Rhywedd
Y ffyrdd y disgwylir i bobl ymddwyn mewn cymdeithas yn ôl eu rhyw, neu’r hyn a dderbynnir yn gyffredin fel “normal” o ran y person o’r rhyw hynny.
STI
Gweler ‘Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol’. Gallwch chi gael condoms am ddim yma.
Syffilis
Haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI), sy’n aml yn gudd ac sy’n gallu lledaenu heb i’r naill bartner neu’r llall wybod. Mae’n cael ei drosglwyddo yn ystod rhyw neu weithgaredd rhywiol a gall fod yn ddifrifol os na chaiff ei drin. I archebu pecyn hunanbrofi gwaed sy’n profi am HIV, Syffilis, Hepatitis B, a Hepatitis C, yn syth i’ch cartref cliciwch yma.
Syndrom Sioc Wenwynig (TSS)
Mae TSS yn anghyffredin ond yn ddifrifol iawn. Gall fod yn gysylltiedig â defnyddio tampon a/neu ddiaffram. Mae TSS yn achosi twymyn uchel, llewygu a phroblemau cyhyrau. I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.
Syth/Strêt
Gair arall am ‘heterorywiol’.
T
Tamponau
Tiwbiau cotwm y mae menyw yn eu rhoi y tu mewn i’r fagina yn ystod mislif i amsugno gwaed mislif. Dylid newid tamponau’n rheolaidd er mwyn osgoi’r siawns o Syndrom Sioc Wenwynig (TSS). I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.
Terfyniad
Term arall am Erthyliad. Gweler “erthyliad”.
Testosteron
Hormon gwrywaidd sy’n cael ei gynhyrchu yn y ceilliau.
Tethi
Y darnau o groen sy’n ymwthio o ganol pob bron. Fel arfer, mae tethi yn galetach ac yn dywyllach o ran lliw na gweddill y fron/frest.
Trawsffobia
Ofn neu atgasedd o rywun yn seiliedig ar y ffaith eu bod yn Draws, neu gam-drin y person hynny oherwydd eu hunaniaeth Draws.
Trawsnewid
Y camau y bydd person traws yn eu cymryd i ddechrau byw yn ôl yr hunaniaeth rhywedd y mae’n ei arddel.
Trawsryweddol/Traws
Term ymbarél i ddisgrifio pobl nad yw eu rhywedd yr un peth â’r categori rhyw y cawsant eu rhoi ynddo adeg eu geni, neu lle mae gwrthdaro rhwng eu rhywedd a’r categori rhyw y cawsant eu rhoi ynddo. Gall pobl draws ddisgrifio eu hunain gan ddefnyddio un neu fwy o amrywiaeth eang o dermau i ddisgrifio eu hunain, gan gynnwys (ymhlith termau eraill) trawsryweddol, anneuaidd, rhyweddhylifol, rhyweddcwiar. Nid yw pob person traws yn dewis trawsnewid.
Trawsrywiol
Term hen-ffasiwn, a mwy meddygol er mwyn cyfeirio at rywun nad yw eu rhywedd yr un peth â’r categori rhyw y cawsant eu rhoi ynddo adeg eu geni. Mae’r term yn dal i gael ei ddefnyddio gan rai, ond mae’n well gan lawer ddefnyddio’r termau ‘traws’ neu ‘trawsryweddol’.
Treiddiol
Pan fydd pidyn neu degan rhyw yn mynd i mewn i’r fagina, neu’r anws.
Treisio
Pan fydd person yn cael ei orfodi i gael rhyw yn erbyn ei ewyllys a heb roi cydsyniad, fe’i gelwir yn drais rhywiol. Mae trais rhywiol yn anghyfreithlon ac yn cael ei gymryd o ddifrif gan yr heddlu.
Treisio ar ddêt
Pan fydd rhywun yn mynd ar ddêt ac yna’n gorfodi eu dêt i gael rhyw gyda nhw yn erbyn eu hewyllys.
Tribio
Mae’n cyfeirio at ‘siswrn’ sef pan fydd dwy fenyw yn rhwbio eu gweflau a’u clitoris gyda’i gilydd fel math o ryw nad yw’n treiddio i gyffroi ei gilydd ar yr un pryd.
Tricomoniasis
Haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI), sydd hefyd yn cael ei alw’n T.V. Gall achosi rhedlif gwyrdd, ewynnog ymysg menywod a rhedlif gwyrdd neu felyn, yn debyg i Gonorea, ymysg dynion. Mae’n hawdd ei drin.
Tynnu Allan
Pan fyddwch yn tynnu’r pidyn allan o fagina cyn alldaflu. Nid yw hyn yn ddull atal cenhedlu ac mae’n annibynadwy iawn wrth atal beichiogrwydd ac STI. I gael mwy o wybodaeth am ddulliau atal cenhedlu effeithiol cliciwch yma.
Tyweli / Padiau Mislif
Padiau cotwm sy’n ffitio i mewn i ddillad isaf merched/menywod pan fyddant yn cael mislif. Mae’r tywelion yn amsugno gwaed, ond mae angen eu newid bob ychydig oriau.
U
U=U
Anghanfyddadwy = Anhrosglwyddadwy neu Undectectable = Untransmittable yn Saesneg. Bydd rhywun sy’n cael diagnosis o HIV yn cael eu rhoi ar feddyginiaeth ac o fewn blwyddyn ar ôl y driniaeth, efallai na fydd modd canfod yr haint. Mae hyn yn golygu na all rhywun â statws anghanfyddadwy drosglwyddo HIV.
Un Noson yn Unig
Pan fyddwch yn cael rhyw gyda pherson ond nad ydych yn datblygu perthynas â nhw.
W
Wancio
Gair arall am fastyrbio.
Wrethra
Y term meddygol am y tiwb y mae eich wrin (pi-pi) yn dod allan ohono.
Wrin
Mae hefyd yn cael ei alw’n ‘wi’ neu ‘pi-pi’. Mae’n cael ei gynhyrchu yn yr arennau ac mae’n cynnwys dwr gormodol a gwastraff gwenwynig sy’n dod o fwyd.
Y
Y Bilsen
Yr enw cyffredin ar y bilsen atal cenhedlu. Gellir cymryd y bilsen bob dydd i atal menywod rhag beichiogi. I gael mwy o wybodaeth am y bilsen, cliciwch yma.
Y Bilsen Fach
Mae hefyd yn cael ei galw’n bilsen progestogen-yn-unig. Mae’n atal beichiogrwydd drwy atal ofyliad (rhyddhau wy) a datblygiad ffoligaidd ac mae’n newid natur y mwcws serfigol i atal sberm rhag gallu mynd i mewn i’r groth. Rhaid cymryd y math yma o bilsen bob dydd er mwyn iddi fod yn effeithiol. I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.
Y Bilsen y Bore Wedyn
Term arall am y dulliau atal cenhedlu brys. Wedi’i gymryd o fewn 5 diwrnod (neu 120 awr) ar ôl rhyw heb ddiogelwch i atal beichiogrwydd. I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.
Y Llindag
Haint yr organau rhywiol sy’n cael ei achosi gan ffwng. Gall unrhyw un gael y llindag, ond mae’n fwy cyffredin ymysg menywod. Mae’n achosi dolur a chosi ond mae modd ei drin. Gweler “Haint Burum”.

