Byddwn yn symud i wefan newydd yn fuan, a phan fydd hyn yn digwydd byddwch chi’n cael eich ailgyfeirio’n awtomatig. Bydd y wefan newydd yn edrych yn wahanol, ond peidiwch â phoeni – bydd y gwasanaeth Profi a Phostio yn dal i fod ar gael fel arfer.

Mae’r diweddariad hwn yn helpu i ddod â gwybodaeth iechyd ddibynadwy at ei gilydd mewn un lle. Diolch am eich dealltwriaeth.

Os hoffech gael cip ymlaen llaw, gallwch ymweld â’r wefan newydd yma: https://beta-icc.gig.cymru/pwnc/iechyd-rhywiol-ac-atgenhedlol/

Dull Atal Cenhedlu Misol

Pa Dull Atal Cenhedlu Misol?
Cylch Gweiniol Atal Cenhedlu

Cylch geweiniol atal cenhedlu

Cylch bach plastig, meddal, tua 4mm o drwch a 5.5cm o ddiamedr yw’r cylch gweiniol. Mae’n cael ei osod yn y wain (fagina) am 21 diwrnod lle mae’n rhyddhau dau hormon – estrogen a progestogen. Mae’r rhain yn debyg i’r hormonau naturiol a gynhyrchir gan yr ofarïau ac maent fel y rhai a ddefnyddir yn y bilsen gyfun.

Effeithiolrwydd: Mae’r cylch yn effeithiol iawn pan gaiff ei ddefnyddio’n berffaith. Mae 99% yn sicr o atal beichiogrwydd â defnydd perffaith a 91% yn sicr â defnydd nodweddiadol.

Cofio’n rheolaidd: Rhaid i chi dynnu’r hen gylch allan a rhoi un newydd i mewn bob mis, gan adael bwlch o 7 diwrnod ar gyfer eich mislif.

Mislif: Gan ddibynnu sut rydych yn defnyddio’r cylch gweiniol atal cenhedlu, gall wneud eich mislif yn fwy rheolaidd, yn ysgafnach ac yn llai poenus, neu gall eich mislif stopio’n gyfan gwbl. Gallai helpu â symptomau cyn mislif.

Amddiffyn rhag STIs: Nac ydy. Defnyddiwch gondomau allanol neu gondomau mewnol i helpu i amddiffyn eich hun rhag STIs.