Mabwysiadu

Mabwysiadu

Mabwysiadu

Efallai mai mabwysiad fydd y dewis cywir i chi os nad ydych chi am fod yn rhiant, ond nad ydych chi am gael erthyliad chwaith.

Beth yw mabwysiadu?

Mae mabwysiadu yn ffordd o roi rhieni newydd i blentyn. Byddwch chi’n parhau â’r beichiogrwydd ac yn geni’r babi, ond ni fyddwch chi’n gofalu amdano ac ni fydd gennych chi hawliau na chyfrifoldebau cyfreithiol mewn cysylltiad â’r plentyn pan fydd y broses mabwysiadu wedi’i chwblhau.

Mae mabwysiadu yn broses ffurfiol sy’n cael ei threfnu gan asiantaethau mabwysiadu ac awdurdodau lleol, ac sy’n cael ei gwneud yn gyfreithlon gan y llysoedd. Unwaith mae achos o fabwysiadu’n gyfreithlon, mae’r penderfyniad yn derfynol a does dim modd ei newid.

Sut mae mabwysiadu yn digwydd?

Gallwch chi ddechrau cynllunio ar gyfer mabwysiad ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd, ond ni fydd y broses wedi’i chwblhau tan ar ôl i’r babi gael ei eni. Bydd gofyn i chi lofnodi dogfen ffurfiol yn cytuno i’r mabwysiad, ond nid oes modd gofyn i chi wneud hyn nes bod y babi yn chwech wythnos oed. Dydy’r cytundeb ddim yn golygu bod y mabwysiad yn derfynol.

Fel arfer bydd y babi yn mynd at ofalwyr maeth am gyfnod byr tra bo trefniadau’n cael eu gwneud i’r babi symud at y rhieni sy’n mabwysiadu. Nhw wedyn fydd yn gofalu am y babi ac yn gwneud cais i’r llys am orchymyn mabwysiadu. Pan fyd y gorchymyn yn cael ei roi, mae’r mabwysiad yn derfynol, ac nid chi fydd rhiant cyfreithiol y babi mwyach.

Oes modd i mi newid fy meddwl?

Gallwch chi newid eich meddwl ar unrhyw adeg cyn i’r mabwysiad gael ei wneud yn gyfreithlon, ond efallai na fydd hi’n hawdd neu’n bosib hyd yn oed cael y babi yn ôl. Bydd y llys yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar beth sydd orau i’r babi. Pan fydd y mabwysiad yn gyfreithlon, bydd y babi yn aros gyda’r rheini sy’n mabwysiadu, hyd yn oed os ydych chi’n newid eich meddwl.

Beth mae angen i mi ei wneud os ydw i’n dewis mabwysiad?

Efallai y bydd hi’n ddefnyddiol siarad â rhywun sy’n gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi am fabwysiadu, gan gynnwys:

  • Meddyg neu nyrs yn eich practis meddyg teulu
  • Gweithiwr cymdeithasol yn yr ysbyty (cysylltwch â’ch ysbyty lleol i weld a oes gweithiwr cymdeithasol yn gysylltiedig a’r ward mamolaeth)
  • Gweithiwr mabwysiadu yn adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol, neu mewn asiantaeth mabwysiadu gwirfoddol lleol.

Os ydych chi’n ystyried mabwysiad, bydd y gweithiwr cymdeithasol neu’r asiantaeth mabwysiadu sy’n eich cefnogi yn trefnu cwnsela mabwysiadu arbennig. Pwrpas hyn yw gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod yn union beth mae mabwysiad yn ei olygu, ac i’ch helpu i wneud y penderfyniad cywir i chi.

Erbyn hyn, mae holl wasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol yng nghymru yn gweithio gyda’i gilydd mewn 5 cydweithrediad rhanbarthol. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i gael mwy o wybodaeth am fabwysiadu:

Awdurdodau Ileol

Cysylltu â

Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru cloriau Wrecsam, Sir y Fflint, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych a Ynys Môn

0800 085 0774
01978 295 311

adoption@wrexham.gov.uk

Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru cloriau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir penfro a Powys.

Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru cloriau Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Torfaen

Gwasanaeth Mabwysiadu Baer Gorllewin cloriau Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot a Abertawe

Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd cloriau Bro Morgannwg, Rhonda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Caerdydd