Cyn Rhyw
Cyn rhyw
Mae dulliau atal cenhedlu rhwystrol yn cynnwys diafframau, condomau a chapiau gwddf y groth. Maen nhw’n gweithio drwy atal sberm rhag cyrraedd wy drwy greu rhwystr ffisegol rhwng y ddau.
Y condom yw’r unig ddull atal cenhedlu sy’n gallu eich amddiffyn rhag heintiau.
Condom allanol (condom dyn)
Mae condom allanol yn ffitio dros bidyn a chodiad arno ac mae wedi’i wneud o latecs tenau iawn (rwber). Os oes gennych alergedd i latecs, mae rhai polywrethan (plastig) neu polyisopren ar gael.
Effeithiolrwydd: Mae condomau allanol yn effeithiol iawn pan gânt eu defnyddio’n berffaith. Maent 98% yn sicr o atal beichiogrwydd â defnydd perffaith ac 82% yn sicr â defnydd nodweddiadol.
Cofio cyn rhyw: Defnyddiwch gondom newydd bob tro rydych yn cael rhyw.
Amddiffyn rhag STIs: Ydynt . Condomau allanol a chondomau mewnol yw’r unig ddulliau atal cenhedlu sy’n helpu i’ch amddiffyn rhag STIs.
Condom mewnol (condom menyw)
Mae condom mewnol wedi’i wneud o polywrethan (plastig meddal) neu nitril polymer (rwber synthetig). Mae’n cael ei roi yn y wain (fagina) ac mae’n ei leinio’n llac.
Effeithiolrwydd: Mae condomau mewnol yn effeithiol iawn pan gânt eu defnyddio’n berffaith. Maent 95% yn sicr o atal beichiogrwydd â defnydd perffaith a 79% yn sicr â defnydd nodweddiadol.
Cofio cyn rhyw: Defnyddiwch gondom newydd bob tro y byddwch yn cael rhyw. Gallwch roi’r condom yn ei le ymlaen llaw os dymunwch.
Amddiffyn rhag STIs: Ydynt. Condomau allanol a chondomau mewnol yw’r unig ddulliau atal cenhedlu sy’n helpu i’ch amddiffyn rhag STIs.
Diafframau a chapiau gwddf y groth
Maen nhw’n ffitio y tu mewn i’ch gwain (fagina) ac yn gorchuddio gwddf y groth (y fynedfa i’r groth). Mae gwahanol siapiau a meintiau o ddiafframau a chapiau i’w cael.
Cromenni crwn ag ymyl hyblyg yw diafframau gweiniol. Maent wedi’u gwneud o silicon.
Mae capiau gwddf y groth hefyd wedi’u gwneud o silicon, ond maent yn llai.
I fod yn effeithiol, dylid defnyddio diafframau a chapiau â sbermladdwr. Sylwedd sy’n lladd sberm yw sbermladdwr. Mae ar gael mewn gwahanol ffurfiau, er enghraifft eli neu gel.
Effeithiolrwydd: Mae diafframau a chapiau yn effeithiol iawn pan gânt eu defnyddio’n berffaith, a phan gânt eu defnyddio gyda sbermladdwr. Maent 92-96% yn sicr o atal beichiogrwydd â defnydd perffaith a thua 71-88% yn sicr â defnydd nodweddiadol.
Cofio cyn rhyw: Mae angen i chi roi’r diaffram neu’r cap i mewn cyn i chi gael rhyw.
Amddiffyn rhag STIs: Nac ydynt. Defnyddiwch gondomau allanol neu gondomau mewnol i helpu i amddiffyn eich hun rhag STIs.

