Byddwn yn symud i wefan newydd yn fuan, a phan fydd hyn yn digwydd byddwch chi’n cael eich ailgyfeirio’n awtomatig. Bydd y wefan newydd yn edrych yn wahanol, ond peidiwch â phoeni – bydd y gwasanaeth Profi a Phostio yn dal i fod ar gael fel arfer.

Mae’r diweddariad hwn yn helpu i ddod â gwybodaeth iechyd ddibynadwy at ei gilydd mewn un lle. Diolch am eich dealltwriaeth.

Os hoffech gael cip ymlaen llaw, gallwch ymweld â’r wefan newydd yma: https://beta-icc.gig.cymru/pwnc/iechyd-rhywiol-ac-atgenhedlol/

Ydych Chi’n Cael Eich Brifo?

Ydych Chi'n Cael Eich Brifo?

Ydych Chi’n Cael Eich Brifo?

Ydych chi mewn perthynas lle rydych chi’n cael eich brifo’n gorfforol neu’n emosiynol?

Mae unrhyw un yn gallu dioddef cam-drin domestig. Mae’n gallu bod yn seicolegol, yn rhywiol, yn gorfforol, yn ariannol neu’n emosiynol. Mae unrhyw fath o gam-drin domestig yn annerbyniol.

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn – Cymorth i Ferched Cymru (Saesneg)

Os oes angen help arnoch chi ffoniwch 0808 80 10 800, Llinell Gymorth Byw Heb Ofn am ddim 24 awr y dydd. Mae’r llinell gymorth hon yn cefnogi menywod a dynion sy’n dioddef cam-drin domestig.

Gallwch hefyd gysylltu â’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn drwy anfon neges destun 24/7 ar 078600 77 333 neu drwy eu gwasanaeth e-bost uniongyrchol yn info@livefearfreehelpline.wales

Os ydych chi’n poeni y bydd eich camdriniwr yn gwirio eich hanes chwilio ar y rhyngrwyd, mae cyngor ar gael yn Cuddio’ch hanes ar-lein : Welsh Women’s Aid (welshwomensaid.org.uk)

Ydych chi’n chwilio am help ar ôl ymosodiad rhywiol diweddar?

Os ydych chi wedi dioddef cam-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol, efallai eich bod yn teimlo’n ddryslyd ac yn ofnus a ddim yn gwybod beth i’w wneud nesaf. Mae gwasanaethau ar gael sy’n gallu helpu: Animeiddio CAYR – YouTube (Saesneg).

Does dim rhaid i chi riportio’r ymosodiad i’r heddlu os nad ydych chi eisiau gwneud hynny. Efallai fod angen amser arnoch i feddwl am beth sydd wedi digwydd i chi. Serch hynny, meddyliwch am gael help meddygol cyn gynted â phosibl, oherwydd efallai eich bod mewn risg o fod yn feichiog neu gael haint a drosglwyddir yn rhywiol.

I gael gwybodaeth, ewch i GIG 111 Cymru: GIG 111 Cymru – Gwyddoniadur: Trais ac ymosodiad rhywiol

Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol yng Nghymru

Mae Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol yn cynnig cefnogaeth feddygol, ymarferol ac emosiynol. Mae ganddyn nhw feddygon, nyrsys a gweithwyr cymorth GIG sydd wedi cael eu hyfforddi’n arbennig er mwyn gofalu amdanoch chi: cydweithrediad.gig.cymru/CAYR.

Dyma’r Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol yng Nghymru:

Ble?

Pwy?

Gwefan/Rhif Ffôn

Aberystwyth

Canolfan Cymorth Trais Canolbarth Cymru

Caerfyrddin

Elm Tree House

Merthyr Tudful

New Pathways

Y Drenewydd

 Ty Coeden Bedw

Rhisga, Casnewydd

Laburnum House Rhisga

Abertawe

Beech Tree Centre