Parhau Â’r Beichiogrwydd
Parhau â’r beichiogrwydd
Os byddwch chi’n penderfynu parhau â’r beichiogrwydd, byddwch chi’n gallu cael gofal cynenedigol (gofal yn ystod beichiogrwydd), boed chi’n bwriadu bod yn rhiant neu’n dewis mabwysiad. I ddechrau cael gofal cynenedigol, ewch i’ch practis meddyg teulu neu efallai y byddwch yn gallu mynd yn syth at fydwraig yn eich uned famolaeth agosaf.
Gall eich meddyg teulu neu eich bydwraig drafod y canlynol gyda chi:
- Bwyta’n iach ac ymarfer corff
- Cymryd asid ffolig a fitamin D
- Rhoi’r gorau i ysmygu
- Lleihau neu roi’r gorau i yfed alcohol
- Rhoi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau adloniadol (recreational drug use)
- Cael cyngor ynghylch heintiau a drosglwyddir yn rhywiol
Os oes gennych chi gyflwr meddygol fel epilepsi neu diabetes, siaradwch â’ch meddyg neu eich bydwraig cyn gynted â phosib, oherwydd efallai y bydd angen gofal arbennig arnoch chi.
Mae manylion meddygon teulu a fferyllfeydd ar gael ar wefan GIG 111 Cymru www.nhsdirect.wales.nhs.uk
(Canllaw ar feichiogrwydd a babis: https://www.nhs.uk/conditions/pregnancy-and-baby/ (Saesneg) )

