Ynglyn â Herpes
Beth yw herpes?
Mae herpes yr organau cenhedlu’n gyflwr tymor hir ac fe’i hachosir gan y firws herpes simplex (HSV). Mae’r firws yn hynod heintus a bydd yn lledaenu o un person i’r llall drwy gyffyrddiad croen-â-chroen, fel yn ystod rhyw drwy’r wain, rhyw rhefrol neu ryw geneuol.
Mae yna ddau fath o HSV:
- Math 1 (HSV-1);
- Math 2 (HSV-2).
Fe achosir herpes gwenerol gan HSV o fath 1 a 2.
Wedi i chi gael eich heintio, bydd y firws yn aros ynghwsg (anactif) am y rhan fwyaf o’r amser. Gall sbardunau arbennig, fodd bynnag, actifadu’r firws, gan beri achosion o swigod poenus ar eich organau cenhedlu a’r ardaloedd o’u cwmpas.
Ydi herpes yn broblem ddifrifol yng Nghymru?
Erbyn cyrraedd 25 oed, bydd oddeutu chwech o bob deg o bobl yn y DU yn cario math 1 a bydd oddeutu un ym mhob deg yn cario math 2, mwy yn y boblogaeth sy’n rhywiol actif. Os yw hyn yn syndod i chi, mae hynny oherwydd nad yw’r rhan fwyaf o bobl sydd ag o yn gwybod hynny gan nad oes ganddynt unrhyw symptomau neu oherwydd ei fod mor wan fel na fyddant yn sylwi.
Mae nifer y diagnosau o episodau cyntaf herpes yn parhau i gynyddu yng Nghymru.
Pwy sydd â herpes yng Nghymru?
Mae yna fwy o achosion o herpes mewn gwrywod na benywod, er bod y cynnydd yn yr achosion o episodau cyntaf yn digwydd yn y ddau.
Sut allaf i ddweud a oes herpes ar rywun?
Yn aml fe fydd yna ychydig o symptomau cychwynnol neu ddim. Os bydd y person â symptomau yna fe fyddant yn wahanol rhwng yr haint cyntaf a’r cyflyrau rheolaidd.
Bydd symptomau herpes yr organau cenhedlu y tro cyntaf yn cynnwys:
- Pothelli bychan sy’n byrstio i adael briwiau coch, agored o gwmpas eich organau cenhedlu, eich rectwm, morddwydydd a chluniau;
- Pothelli ac wlserau ar geg y groth (rhan isaf y groth) mewn merched;
- Rhedlif o’r wain mewn merched;
- Poen pan fyddwch yn pasio wrin;
- Teimlad cyffredinol o fod yn sâl, gyda phoenau a symptomau fel ffliw.
Gallai’r symptomau hyn bara hyd at 20 diwrnod. Fodd bynnag, bydd y briwiau’n crachennu ac yn gwella heb greithio ymhen hir a hwyr.
Bydd achosion sy’n dod drachefn yn fyrrach fel rheol a heb fod mor llym.
Sut allwch chi gael herpes?
Fel rheol ni ellir pasio herpes gwenerol ymlaen drwy bethau fel tyweli, cyllyll a ffyrc neu gwpanau gan y bydd y firws yn marw’n gyflym iawn o fod i ffwrdd oddi wrth eich croen. Fodd bynnag, fe allech gael eich heintio drwy rannu teganau rhyw â rhywun sydd â’r firws.
Mae herpes gwenerol yn arbennig o hawdd ei ddal pan fydd person sydd wedi’i heintio â phothelli neu friwiau. Ond gellir ei ddal ar unrhyw adeg, hyd yn oed pan nad oes gan rywun unrhyw symptomau o gwbl.
Gallwch gael herpes gwenerol os byddwch yn cael rhyw â rhywun sydd â dolur annwyd. Anaf sydd fel pothell o gwmpas y geg yw dolur annwyd ac fe’i hachosir hefyd gan HSV.
Unwaith y byddwch wedi eich heintio gan HSV, gellir ei ail-actifadu bob yn hyn a hyn i achosi episod newydd o herpes gwenerol. Gelwir hynny’n ail-ddigwyddiad.
Sut ydw i i’m diogelu fy hun rhag herpes?
Er nad oes yna unrhyw wellhad i herpes gwenerol, gellir rheoli’r symptomau fel rheol drwy ddefnyddio meddyginiaethau gwrthfiraol.
Mae’n bwysig, fodd bynnag, atal lledaeniad herpes gwenerol drwy osgoi rhyw hyd nes bydd y symptomau wedi clirio a pharhau i ddefnyddio condom wedi hynny.
Os byddaf yn meddwl fy mod wedi fy rhoi fy hun mewn perygl o herpes, beth ddylwn i ei wneud?
Dylech fynd i gael cyngor gan eich Meddyg Teulu neu yn eich clinig iechyd rhywiol lleol.
I ble allaf i fynd i gael cyngor a chefnogaeth os byddaf yn poeni am herpes?
Mae GIG 111 Cymru â gwybodaeth eang am herpes (Saesneg) ar y wefan. Gallwch geisio cyngor hefyd gan eich Meddyg Teulu neu yn eich clinig iechyd rhywiol lleol.
Beth yw manteision cael prawf am herpes?
Does yna ddim gwellhad i herpes gwenerol, ond fel rheol gellir rheoli’r symptomau’n effeithiol drwy ddefnyddio meddyginiaethau gwrthfiraol. Gall y meddyginiaethau hyn atal neu gwtogi achosion. Gellir cymryd un o’r meddyginiaethau herpes hyn yn ddyddiol, a bydd hynny’n ei gwneud yn llai tebygol i chi basio’r haint ymlaen i’ch partner(iaid) rhyw.
Os byddwch yn cyffwrdd â’ch briwiau neu’r hylifau o’r briwiau hyn, fe allech drosglwyddo’r herpes i ran arall o’ch corff, fel eich llygaid. Peidiwch â chyffwrdd â’r briwiau na’r hylifau er mwyn osgoi lledaenu herpes i ran arall o’ch corff. Os byddwch yn cyffwrdd â’r briwiau neu hylifau, golchwch eich dwylo’n drylwyr ar unwaith i helpu i osgoi lledaenu’r haint. Os ydych yn feichiog, fe allai achosi problemau i chi a’ch plentyn sydd heb ei eni.
Fydd herpes yn cynyddu’r risg o gael HIV neu ei drosglwyddo ymlaen?
Bydd. Gall herpes gwenerol beri briwiau neu doriadau yn y croen neu leinin y geg, y groth, a’r rectwm. Gall y briwiau gwenerol a achosir gan herpes waedu’n rhwydd. Pan ddaw’r briwiau i gyffyrddiad â’r geg, y wain neu’r rectwm yn ystod rhyw, fe fyddant yn cynyddu’r perygl o roi neu gael HIV os byddwch chi neu eich partner ag HIV.
Os ydych yn profi achosion cylchol o herpes gwenerol dylech ystyried hefyd cael profion am HIV. Gallai hyn fod yn arwyddo system imiwnedd sydd wedi’i gwanhau (amddiffynfa naturiol y corff rhag haint ac afiechyd), a allai ddynodi fod gennych chi HIV.
Os bydd gennych HIV neu herpes gwenerol fe gewch eich cyfeirio at arbenigwr iechyd rhywiol. Bydd hynny oherwydd y gall herpes gwenerol fod yn gyflwr mwy difrifol mewn pobl sydd ag HIV.

