Ynglyn â Syffilis
Beth yw siffilis?
Haint bacterol ydyw y gellir ei wella, sy’n lledaenu’n hawdd drwy weithgarwch rhywiol heb ddiogelwch.
A yw siffilis yn broblem fawr yng Nghymru?
Mae niferoedd cynyddol o achosion o Siffilis yng Nghymru, ac felly mae’n dod yn fwy cyffredin nag o’r blaen.
Gall Siffilis fod yn haint difrifol iawn os na chaiff ei drin. Ni ellir cael gwared arno heb feddyginiaeth.
Gallai cael siffilis ei gwneud yn haws i rywun gael neu drosglwyddo HIV.
Pwy sydd â siffilis yng Nghymru?
Gall unrhyw un sydd wedi cael rhyw heb ddiogelwch ddal Siffilis. Mae Siffilis yn fwy cyffredin mewn dynion sy’n cael rhyw gyda dynion, ond mae mwy o bobl yn cael diagnosis o’r haint hwn nad ydynt yn rhan o’r grŵp hwn.
Mae’n bosibl dal Siffilis o unrhyw weithgarwch rhywiol, gan gynnwys rhyw geneuol.
Sut y gallaf ddweud os oes gan rhywun siffilis?
Mae’n annhebygol y byddwch yn gallu dweud a oes gan rywun Siffilis. Gall rhywun gael siffilis a pheidio â gwybod. Tra bo rhai pobl yn datblygu symptomau gweladwy o haint siffilis, ni fydd eraill. Yr unig ffordd o wybod os oes gennych chi neu eich partner Siffilis yw drwy gael prawf. Gallwch archebu prawf am siffilis yma. Gall gymryd peth amser rhwng cael eich heintio a phrofi’n bositif, mae hyn yn 12 wythnos ar gyfer Siffilis, sy’n golygu y dylech wneud yn siwr eich bod yn profi 12 wythnos ar ôl eich risg diwethaf er mwyn sicrhau bod eich canlyniad Siffilis yn gywir. Os oes gennych sawl partner neu bartneriaid newydd yn rheolaidd, dylech brofi’n rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn cwmpasu eich cyfnod ffenestr. Byddwn yn argymell i chi brofi bob 3-6 mis os ydych yn cael rhyw risg uchel yn rheolaidd.
Ni fydd gan llawer o bobl unrhyw symptomau, ac ni fyddant yn gwybod eu bod wedi’u heintio. I’r rheini sy’n datblygu symptomau, dyma nhw:
Cam 1: Wlser bach di-boen sy’n gallu ymddangos yn y geg neu ar yr organau cenhedlu. Gall hyn fod yn symptom hawdd i’w fethu, oherwydd ni allwch ei deimlo. Bydd y briw yn gwella ac yn diflannu ar ei ben ei hun. Nid yw hyn yn golygu eich bod wedi gwella’r haint.
Cam 2: Gall brech ymddangos ar y corff. Mae’r symptom hwn yn fwy anodd i’w fethu, ond gellir ei gamgymryd am sawl cyflwr arall. Bydd y frech yn gwella ar ei phen ei hun, ond nid yw’n golygu eich bod wedi gwella’r haint.
Ar ôl y symptom hwn, efallai na welwch chi unrhyw symptomau pellach am amser hir. Rydych chi’n dal i fod yn heintus i eraill yn ystod yr adeg hon, ac mae’r haint yn dal i allu gwneud niwed i chi.
Os na chaiff ei drin, gall Siffilis gael canlyniadau difrifol ar eich iechyd. Gall arwain at nam ar y golwg, dementia a marwolaeth. Ni fydd yr un o’r rhain yn digwydd os cewch driniaeth ar gyfer Siffilis.
Mae Siffilis yn ddifrifol iawn i bobl sy’n feichiog a gall arwain at gamesgoriadau, genedigaethau marw a marwolaethau babanod. Cewch gynnig prawf yn ystod beichiogrwydd ac os byddwch yn bositif cewch gynnig triniaeth, mae’r driniaeth yn ddiogel i chi ac i’ch baban yn y groth.
Sut y gallwch gael siffilis?
Caiff Siffilis ei drosglwyddo yn ystod rhyw geneuol, gweiniol neu rhefrol heb ddiogelwch. Gellir hefyd ei drosglwyddo drwy rannu teganau rhyw.
Mae’n bosibl trosglwyddo Siffilis o’r fam i’r baban.
Sut y gallaf amddiffyn fy hun rhag siffilis?
Defnyddiwch gondom bob amser. Gallwch gael condomau am ddim yma. Condomau yw’r ffordd orau o amddiffyn eich hunan ac eraill rhag siffilis a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol.
Os nad ydych wedi mwynhau defnyddio condomau yn y gorffennol rhowch gynnig ar wahanol rai. Mae nifer o wahanol amrywiaethau ohonynt bellach er mwyn cynyddu pleser a chynhyrfiad. Gallwch gysylltu â’n cynghorwyr Iechyd Rhywiol i drafod defnyddio condomau yma: ICC.IechydRhywiol@wales.nhs.uk.
Mae’n bwysig eich bod yn profi’n rheolaidd os ydych yn cael rhyw heb ddiogelwch. Os ydych chi wedi cael siffilis unwaith, gallwch ei ddal eto – ac eto. Dyma pam ei bod yn bwysig cael eich profi’n rheolaidd, yn enwedig os ydych chi’n cael llawer o ryw achlysurol.
Os ydw i’n credu fy mod i wedi rhoi fy hun mewn perygl o siffilis beth y dylwn i ei wneud?
Gallwch gael prawf yma. Gallwch hefyd gysylltu â’n tîm cynghori iechyd i gael cyngor yma ICC.IechydRhywiol@wales.nhs.uk.
Gallwch hefyd fynd i’ch clinig iechyd rhywiol lleol. Gallwch ddod o hyd i fanylion am eich gwasanaeth lleol yma.
Ble gallaf fynd am gyngor a chymorth os ydw i’n poeni am siffilis?
Os hoffech gael rhagor o gyngor neu gymorth gallwch gysylltu â’n tîm cynghori iechyd ar ICC.IechydRhywiol@wales.nhs.uk.
Gallwch hefyd gysylltu â’ch gwasanaeth iechyd rhywiol lleol.
Gallwch hefyd gael gafael ar help a chefnogaeth yma: https://www.tht.org.uk/sexual-health (Saesneg)
Beth yw manteision cael eich profi am siffilis?
- Gellir gwella siffilis, ond dim ond os byddwch wedi profi’n bositif am yr haint y gallwch gael triniaeth ar ei gyfer.
- Gallwch ddal siffilis fwy nag unwaith, felly hyd yn oed os ydych wedi cael eich trin ar ei gyfer o’r blaen, byddwch yn dal i gael budd o gael prawf.
A yw siffilis yn cynyddu’r risg o gael neu drosglwyddo HIV?
Ydy. Os ydych yn cael rhyw heb ddiogelwch gallwch ddal unrhyw haint a drosglwyddir yn rhywiol. Gall gael haint a drosglwyddir yn rhywiol yn ogystal â HIV eich gwneud yn fwy tebygol o drosglwyddo HIV. Bydd defnyddio condomau yn eich helpu i amddiffyn eich hunan a’ch partneriaid. Gallwch archebu condomau yma.
Os ydych chi’n HIV-positif ac mae gennych siffilis, gall hyn gynyddu eich ‘llwyth feirysol’ (mesur o HIV yn eich gwaed) gan gynyddu’r risg o drosglwyddo HIV i eraill.
Profi a hunanbrofi
Os oes gennych unrhyw symptomau, dylech gysylltu â’ch clinig iechyd rhywiol lleol neu Feddyg Teulu am gyngor.
Rydym yn cynnig gwasanaeth hunanbrofi GIG diogel a dibynadwy lle gallwch archebu drwy ddefnyddio ein gwefan yma. Rhaid i chi fod yn byw yng Nghymru i gael y gwasanaeth profi hwn.
Mae gwasanaethau hunanbrofi preifat eraill ar gael ar-lein ac ar y stryd fawr. Cyn defnyddio un o’r pecynnau hunanbrofi hyn, gwnewch yn siŵr bod ganddo farc sicrhau ansawdd CE Golyga hyn, os ydych chi’n ei ddefnyddio’n gywir, bydd y pecyn prawf yn gweithio ac yn ddiogel.
Nid oes unrhyw becyn hunanbrofi yn gwbl ddibynadwy, ac nid oes sicrwydd bod prawf cartref yn addas i chi os oes marc CE arno. Os ydych chi’n hunan-brofi am siffilis ac mae’r canlyniad yn bositif, mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â gweithiwr iechyd proffesiynol cyn gynted â phosibl a chael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.

