Profi Cartref
Archebwch Eich Pecyn
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth yma i gael pecyn profi am Glamydia a Gonorea, neu pecyn i brofi am HIV, Siffilis, Hepatitis B a Hepatitis C. Gallwch ddefnyddio’r rhain yn eich cartref, wedyn eu postio i’r labordy yn yr amlen ragdaledig. Danfonwch popeth yn ôl gyda’ch sampl i’r labordi, gan gynnwys y ffurflen gais, oherwydd ni ellir eich samplau cael ei brofi hebddo.
Sylwch y byddwch bob amser yn cael canlyniad gennym ni – os nad ydych wedi clywed oddi wrthym mewn 3 wythnos cysylltwch â ni ar ICC.IechydRhywiol@wales.nhs.uk
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Mae’n ddrwg gennym ond nid yw’r gwasanaeth hwn yn cael ei fonitro ar benwythnosau nac ar Wyliau Banc.
Gweler ychydig o wybodaeth isod am ble i gael cymorth y tu allan i oriau ar gyfer eich iechyd rhywiol:
Os yw eich ymholiad yn ymwneud â chanlyniadau, archebion neu unrhyw beth nad yw’n frys neu nad yw wedi’i restru isod, gallwch ddisgwyl ymateb gan y gwasanaeth yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener (09:00-16:00) (ac eithrio Gwyliau Banc). Byddwn yn ymateb i bob e-bost a anfonir.
Os ydych wedi dioddef ymosodiad rhywiol yn ystod y 120 awr ddiwethaf gallwch gael cymorth a chyngor yn eich adran damweiniau ac achosion brys leol, fel arall, gallwch gysylltu â GIG 111 Cymru.
Os ydych wedi dioddef ymosodiad rhywiol ar unrhyw adeg a’ch bod dros 16 oed gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol 24/7 ar 0808 500 2222 neu gael rhagor o wybodaeth amdanynt yma: https://247sexualabusesupport.org.uk/ (Saesneg)
Os ydych chi’n meddwl efallai eich bod wedi dod i gysylltiad â HIV ac eisiau gwybod am Broffylacsis Ôl-Gysylltiad ar gyfer HIV (PEP/PEPSE) ewch i’r dudalen we (Ynglŷn â HIV) am wybodaeth ychwanegol. Os oedd eich risg o fewn y 72 awr ddiwethaf, cysylltwch â’ch adran achosion brys leol am gymorth pan fydd y clinig iechyd rhywiol ar gau. Os ydych yn ansicr, gallwch gysylltu â GIG 111 Cymru.
Os ydych chi wedi cael rhyw heb ddiogelwch yn ystod y 120 awr diwethaf ac eisiau gwybod am Atal Cenhedlu Brys, cysylltwch â’ch fferyllfa leol (manylion i’w gweld yma: GIG 111 Cymru – Canlyniadau Chwilio). (Gwiriwch â’r fferyllfa cyn mynd gan fod angen gweithiwr fferyllol proffesiynol hyfforddedig ar ddyletswydd i ddarparu atal cenhedlu brys.).
Os ydych yn profi unrhyw symptomau, cysylltwch â GIG 111 Cymru.
Os ydych yn teimlo’n anniogel cysylltwch â’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn am ddim 24 awr dros y ffôn ar : 0808 80 10 800, trwy neges destun ar: 078600 77 333, neu drwy eu gwasanaeth e-bost uniongyrchol yn info@livefearfreehelpline.wales. Mae’r llinell gymorth hon yn cefnogi unrhyw unigolion sy’n profi cam-drin domestig.
Bydd y gwasanaeth yn cael ei werthuso i sicrhau ei fod yn addas i Gymru, felly byddem yn ddiolchgar pe baech yn llenwi’r arolwg ar ôl archebu eich pecyn.
Er mwyn i ni ddarparu’r gwasanaeth bydd rhaid i ni gael rhywfaint o ddata personol gennych, a gaiff eu casglu ar y system, sy’n cael ei weithredu gan Signum Health. Dim ond y data personol sy’n angenrheidiol ar gyfer y broses penodol rydym yn ei chwblhau fyddwn ni’n eu casglu a’u phrosesu. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n deall bod eich data personol yn werthfawr iawn ac rydym yn hynod o ofalus gyda diogelwch data oherwydd hynny. Rydym yn defnyddio mesurau technegol cadarn i sicrhau bod eich data personol a’r mynediad ato wedi’u cyfyngu, i bobl sydd angen eu phrosesu fel rhan o’u waith. Yn unol â gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar gyfer Diogelu Data (GDPR), pan rydym yn casglu neu’n prosesu data personol gan bobl, rhaid i ni roi gwybod iddynt sut a pham rydym yn eu phrosesu, beth rydym yn ei wneud â hwy a gyda phwy, os unrhyw un, ydym am eu rhannu â. Rydym yn gwneud hyn drwy gyfrwng Hysbysiad Preifatrwydd.
I gael rhagor o wybodaeth a thiwtorialau pecyn ewch i’n Sianel YouTube (Saesneg).
Noder:
Cofiwch ein bod yn defnyddio gwasanaeth y Post Brenhinol a bod oedi yn effeithio arno weithiau. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaeth, ewch i: Cymraeg | Y Post Brenhinol
Gan fod gennym ni becynnau wedi’u codio ymlaen llaw ar hyn o bryd, sylwch ein bod wedi gorfod newid y pecyn er mwyn cydymffurfio â Safonau Dyfeisiau Meddygol yr MHRA.
Er bod y ‘bag’ allanol llwyd yn parhau i fod yn gynnil heb unrhyw logos na dynodwyr, mae gan y blwch ei hun lawes allanol sydd â gwybodaeth am gynnwys a phwrpas y pecyn.
MPox / BrechM (Brech y Mwncïod yn flaenorol, enwyd yn MPox gan Sefydliad Iechyd y Byd)
- Os ydych chi’n meddwl bod gennych chi MPox, peidiwch ag archebu pecyn prawf cartref ar gyfer heintiau sy’n cael eu trosglwyddo’n rhywiol (MPox – Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
- Ni fydd pecyn samplu gartref yn profi am Mpox
- Dim ond trwy’r clinig iechyd rhywiol y gallwch chi gael prawf am Mpox – ffoniwch eich gwasanaeth lleol (GIG 111 Cymru – Canlyniadau Chwilio) i drafod hyn gyda nhw. PEIDIWCH â mynd i glinig heb apwyntiad. Dylech aros gartref ac osgoi cysylltiad agos â phobl eraill hyd nes y byddwch chi wedi cael gwybod beth i’w wneud.
- Nid yw profi’n bositif (neu’n negyddol am haint sy’n cael ei drosglwyddo’n rhywiol) yn golygu nad oes gennych chi Mpox – dim ond os bydd y meddyg yn eich asesu ac yn gofyn am brawf y cewch chi eich profi am Mpox.
Cwestiynau Cyffredin
A allaf archebu os wyf o dan 16 oed?
Na, ni allwch archebu pecyn prawf drwy Gymru Chwareus os ydych o dan 16 oed. Os ydych o dan 16 oed cysylltwch â’ch gwasanaeth iechyd rhywiol lleol. I ddod o hyd i’ch gwasanaeth iechyd rhywiol lleol cliciwch yma.
Beth ddylwn i ei wneud os oes gennyf symptomau?
Os oes gennych symptomau mae angen i chi gysylltu â’ch gwasanaeth iechyd rhywiol lleol. I ddod o hyd i’ch gwasanaeth iechyd rhywiol lleol cliciwch yma.
Sut alla i gael dull atal cenhedlu brys?
Os ydych wedi cael rhyw heb ddiogelwch yn ystod y 5 diwrnod diwethaf ac mae angen dull atal cenhedlu brys arnoch, cliciwch yma.
Sut alla i gael PEPSE?
Mae Proffylacsis Ôl-Amlygiad (PEPSE) yn gwrs o feddyginiaeth y gallwch ei gymryd os ydych yn meddwl eich bod wedi dod i gysylltiad â HIV yn ystod y 72 awr ddiwethaf. Os ydych wedi cael rhyw heb ddiogelwch yn ystod y 72 awr ddiwethaf ac yn meddwl eich bod wedi dod i gysylltiad â HIV, cysylltwch â’ch gwasanaeth iechyd rhywiol lleol. I ddod o hyd i’ch gwasanaeth iechyd rhywiol lleol cliciwch yma.
Os yw y tu allan i oriau gwasanaeth, gallwch fynd i’ch adran damweiniau ac achosion brys leol. Po gyntaf y byddwch yn dechrau cymryd PEPSE, y mwyaf effeithiol ydyw felly peidiwch ag oedi cyn ceisio cyngor.
Pryd ddylwn i gael prawf?
Weithiau mae clinigwyr yn cyfeirio at ‘gyfnodau ffenestr’ wrth brofi am STI. Y cyfnod ffenestr yw’r amser y mae’n ei gymryd i ddal haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI) nes iddi ymddangos yn bositif ar brawf.
Os ydych chi’n credu y gallech fod wedi dod i gysylltiad â STI, argymhellir eich bod yn cael prawf ar gyfer Clamydia a Gonorea 2 wythnos ar ôl cael rhyw heb ddiogelwch.
Ar gyfer prawf gwaed, argymhellir eich bod yn cael prawf 7 wythnos ar ôl rhyw heb ddiogelwch (7 wythnos yw’r cyfnod ffenestr ar gyfer HIV). Dylech ystyried ail-brofi 5 wythnos yn ddiweddarach gan mai 12 wythnos yw’r cyfnod ffenestr ar gyfer Siffilis, Hepatitis B, a Hepatitis C*.
*Gall gymryd hyd at 6 mis i Hepatitis C ddangos yn bositif mewn prawf. Os ydych mewn perygl o ddal y firws (h.y. Cemryw) argymhellir eich bod yn profi eto 3 mis yn ddiweddarach.
Os ydych chi’n credu y gallech fod wedi dod i gysylltiad â HIV yn y 72 awr ddiwethaf, rydym yn argymell eich bod yn ceisio cyngor ar dderbyn PEPSE ar unwaith. I ddod o hyd i’ch gwasanaeth iechyd rhywiol lleol cliciwch yma.
Ar gyfer pa STIs y gwneir profion?
Gallwch gael eich profi am Glamydia a Gonorea a/neu eich profi am HIV, Siffilis, Hepatitis B, a Hepatitis C o’ch cartref eich hun.
A yw'r pecyn yn profi am Trichomonas?
Nac ydy. Bydd angen i chi ymweld â gwasanaeth iechyd rhywiol arbenigol i brofi am Trichomonas.
Ydy'r pecyn yn profi am Feirws Herpes Simplecs (HSV)?
Nac ydy. I brofi am HSV cymerir rhywfaint o hylif o un o’ch pothelli/briwiau. Ni ellir ei wneud os nad oes gennych unrhyw bothelli neu friwiau gweladwy. Bydd angen i chi fynychu gwasanaeth iechyd rhywiol arbenigol os oes gennych symptomau.
Ar gyfer beth mae'r pecyn wrin a/neu'r swab yn profi?
Mae’r pecyn wrin yn profi am Glamydia a Gonorea. Mae pecynnau swabiau’r wain, y gwddf a’r rhefr yn profi am Glamydia a Gonorea.
Am beth mae'r pecyn gwaed yn profi?
Mae’r pecyn gwaed yn profi HIV, Siffilis, Hepatitis B, a Hepatitis C.
Os ydych wedi cael eich trin am Siffilis yn flaenorol byddwch yn cael pecyn prawf gwaed ychwanegol i wneud prawf Siffilis ychwanegol – oherwydd gallwch ddal Siffilis fwy nag unwaith.
Os nad ydych wedi cael HIV, Siffilis, Hepatitis B, a Hepatitis C o’r blaen a bod gennych ganlyniad ‘reactive POSTIVE’, bydd sampl gwaed dilynol yn cael ei gymryd i wneud yn siŵr nad yw’n canlyniad positif anghywir.
Pam mae fy rhywedd yn bwysig?
Gofynnwn am eich rhywedd er mwyn casglu data i wirio ein bod mor gynhwysol â phosibl a hefyd i’r system roi cyngor uniongyrchol ynghylch pa becyn prawf y dylid ei anfon.
Pam mae angen i chi wybod y math o ryw rydw i yn ei gael?
Rydym yn gofyn am ba fath o ryw rydych yn ei gael er mwyn i ni allu anfon y pecyn prawf cywir atoch.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i'r pecyn prawf gyrraedd?
Dylech dderbyn eich pecyn prawf o fewn 3-5 diwrnod gwaith.
Archebais becyn prawf ychydig fisoedd yn ôl ond wnes i ddim ei ddefnyddio, a allaf ei ddefnyddio nawr?
Mae gan bob un o’r tiwbiau sampl ddyddiadau dod i ben arnynt ac oes silff hir. Y tiwb sydd â’r oes silff fyrraf yw’r tiwb bach a ddefnyddir ar gyfer y sampl gwaed.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gael canlyniad?
Dylech gael eich canlyniadau o fewn 3 wythnos ar ôl dychwelyd eich pecyn. Os nad ydych wedi cael eich canlyniadau o fewn 3 wythnos anfonwch e-bost at ICC.IechydRhywiol@wales.nhs.uk a byddwn yn gwirio eich canlyniadau i chi.
Os yw’ch holl ganlyniadau’n NEGATIF ac roedd modd prosesu’ch holl samplau, byddwch yn cael neges destun.
Beth os oes gennyf ganlyniad POSITIF?
Os yw unrhyw rai o’ch canlyniadau’n BOSITIF, bydd y gwasanaeth iechyd rhywiol yn eich ardal yn cysylltu â chi i drefnu eich triniaeth a’ch gofal cyfrinachol am ddim.
Ble mae fy mhecyn prawf?
Byddwch yn ymwybodol o oedi yn y post – rydym yn defnyddio’r Post Brenhinol y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt.
A yw'r pacediadau’n gynnil?
Ydyn, mae pacediadau’r pecyn prawf yn gynnil.
Nid oes gan y pecyn unrhyw logos na gwybodaeth adnabod. Mae gennym ni rai fideos ar-lein sy’n dangos i chi sut maen nhw’n edrych: https://www.youtube.com/channel/UCZzx0Y6fLCIUNzOLYB4xJPA (Saesneg)
Os byddwch yn archebu sawl prawf (h.y. pecyn wrin a phecyn gwaed) byddant yn cyrraedd yn yr un pecyn. Yr unig amser y byddwch yn cael mwy nag un pecyn yw os ydych wedi cael eich trin am Siffilis o’r blaen.
Beth yw PrEP?
Strategaeth atal HIV yw Proffylacsis Cyn-Amlygiad (PrEP). Gall pobl HIV-negyddol ddefnyddio cyffuriau gwrth-retrofeirysol (ARVs) HIV i leihau eu risg o gael eu heintio â HIV. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Ble gallaf gael brechiad rhag Hepatitis B?
Mae’r brechiad Hepatitis B ar gael gan y GIG i unrhyw un sy’n wynebu risg uwch o gael Hepatitis B neu ei gymhlethdodau. Gallwch siarad â’ch meddyg teulu neu eich gwasanaeth iechyd rhywiol lleol os ydych yn meddwl eich bod mewn perygl.
Ble gallaf gael brechiad rhag HPV?
Mae brechiad y Feirws Papiloma Dynol (HPV) yn cael ei gynnig gan y GIG i bob plentyn 12 a 13 oed.
Mae dynion sy’n cael rhyw gyda dynion (MSM) hyd at ac yn cynnwys 45 oed yn gymwys i gael brechiad HPV am ddim gan y GIG. Gellir gwneud hyn yn eich gwasanaeth iechyd rhywiol lleol. Mae menywod trawsryweddol (pobl a gafodd eu haseinio’n wrywaidd ar enedigaeth) hefyd yn gymwys os yw eu risg o gael HPV yn debyg i’r risg MSM sy’n gymwys i gael y brechlyn HPV.
Mae dynion trawsryweddol (pobl sy’n cael eu haseinio’n fenywaidd adeg eu geni) yn gymwys i gael y brechlyn HPV os ydynt yn cael rhyw gyda dynion eraill ac yn 45 oed neu’n iau. Os yw dynion trawsryweddol wedi cwblhau cwrs o HPV o’r blaen fel rhan o’r rhaglen frechu HPV mewn ysgolion, nid oes angen dosau pellach.
Beth os oes gennyf canlyniad adweithiol?
Os ydych yn cael canlyniad adweithiol, NID yw hynnny’n golygu bod y canlyniad yn bositif. Mae’n golygu bod y prawf wedi ymateb i rywbeth yn eich gwaed.
Mae’r prawf cyntaf hwn yn sensitif iawn. Mae’n amlygu bron pob haint, ond gall hefyd groes-ymateb â phethau eraill yn eich gwaed.
Os ydych yn cael canlyniad adweithiol, yna mae angen i chi gael ail sampl gwaed mewn clinig er mwyn gallu cynnal profion pellach.
Mewn nifer o achosion, ni fydd y canlyniad cychwynnol yn cael ei gadarnhau a bydd y canlyniad terfynol yn un negatif.
Os ydych yn derbyn unrhyw canlyniad adweithiol, bydd y gwasanaeth iechyd rhywiol yn eich ardal, yn cysylltu gydach chi i drefnu profion pellach.
Beth os oes gennyf canlyniad adweithiol?
Os ydych yn cael canlyniad adweithiol, NID yw hynnny’n golygu bod y canlyniad yn bositif. Mae’n golygu bod y prawf wedi ymateb i rywbeth yn eich gwaed.
Mae’r prawf cyntaf hwn yn sensitif iawn. Mae’n amlygu bron pob haint, ond gall hefyd groes-ymateb â phethau eraill yn eich gwaed.
Os ydych yn cael canlyniad adweithiol, yna mae angen i chi gael ail sampl gwaed mewn clinig er mwyn gallu cynnal profion pellach.
Mewn nifer o achosion, ni fydd y canlyniad cychwynnol yn cael ei gadarnhau a bydd y canlyniad terfynol yn un negatif.
Os ydych yn derbyn unrhyw canlyniad adweithiol, bydd y gwasanaeth iechyd rhywiol yn eich ardal, yn cysylltu gydach chi i drefnu profion pellach.
Ble alla i gael condoms am ddim?
Gallwch chi gael condoms am ddim yma.


