Atal Cenhedlu Brys
Atal cenhedlu brys
Gall dulliau atal cenhedlu brys atal beichiogrwydd ar ôl rhyw heb ddiogelwch neu os yw eich dull atal cenhedlu wedi methu – er enghraifft, os yw condom wedi rhwygo neu os ydych wedi anghofio cymryd pilsen.
Mae dau fath:
- PILSEN ATAL CENHEDLU BRYS – Levonelle neu ellaOne (sydd weithiau’n cael ei galw’n bilsen bore wedyn) Mae angen i chi gymryd y bilsen atal cenhedlu brys cyn pen 3 diwrnod (Levonelle) neu 5 diwrnod (ellaOne) ar ôl rhyw heb ddiogelwch iddi fod yn effeithiol – gorau po gyntaf y byddwch yn ei chymryd, er mwyn iddi fod yn fwy effeithiol.
- Dyfais IUCD (dyfais fewngroth, neu’r coil) Gellir gosod y ddyfais IUCD hyd at 5 diwrnod ar ôl rhyw heb ddiogelwch, neu hyd at 5 diwrnod ar ôl yr amser cynharaf y gallech fod wedi ofylu (rhyddhau wy o’r ofari), iddi fod yn effeithiol
Mae’r IUCD yn fwy effeithiol na’r bilsen atal cenhedlu er mwyn atal beichiogrwydd – mae llai nag 1% o’r menywod sy’n defnyddio’r IUCD yn beichiogi.
I ddod o hyd i’ch darparwr gwasanaeth iechyd rhywiol lleol:
GIG 111 Cymru – Canlyniadau (wales.nhs.uk)
Opsiynau eraill ar gyfer cyrchu dulliau atal cenhedlu brys yw fferyllfeydd cymunedol – gwiriwch gyda’r fferyllfa cyn mynychu gan fod angen fferyllydd hyfforddedig ar ddyletswydd i ddarparu dulliau atal cenhedlu brys a byddant yn gallu cynghori:
GIG 111 Cymru – Canlyniadau (wales.nhs.uk)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
Atal Cenhedlu Brys – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (gig.cymru)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
Sir y Fflint a Wrecsam – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)
Siroedd Conwy a Dinbych – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)
Gwynedd ac Ynys Môn – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:
Emergency contraception – Cardiff and Vale University Health Board (nhs.wales) (Saesneg)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol Integredig – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
Meddyginiaeth atal cenhedlu brys (pilsen y bore wedyn) – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:
Iechyd Rhywiol – Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:
Gwasanaethau Iechyd Rhywiol – Bwrdd lechyd Prifysgol Bae Abertawe (gig.cymru)

