Byddwn yn symud i wefan newydd yn fuan, a phan fydd hyn yn digwydd byddwch chi’n cael eich ailgyfeirio’n awtomatig. Bydd y wefan newydd yn edrych yn wahanol, ond peidiwch â phoeni – bydd y gwasanaeth Profi a Phostio yn dal i fod ar gael fel arfer.

Mae’r diweddariad hwn yn helpu i ddod â gwybodaeth iechyd ddibynadwy at ei gilydd mewn un lle. Diolch am eich dealltwriaeth.

Os hoffech gael cip ymlaen llaw, gallwch ymweld â’r wefan newydd yma: https://beta-icc.gig.cymru/pwnc/iechyd-rhywiol-ac-atgenhedlol/

Beichiogrwydd Heb Ei Gynllunio

Beichiogrwydd Hen Ei Gynllunio

Prawf positif – beth nawr?

Os yw’r prawf beichiogrwydd yn bositif, mae hyn yn golygu eich bod yn feichiog. Mae’r holl brofion yn ddibynadwy iawn.

Mae'n Normal Teimlo Amrywiaeth O Emosiynau. Efallai Y Byddwch Yn Teimlo Rhai O'r Canlynol, Neu ddim Un Ohonynt: Pryder, Ofn, Gofid, Hapusrwtd, Syndod, Cyffro.

Pryd mae’n rhaid i mi wneud penderfyniad am beth i’w wneud?

Er eich bod yn teimlo dan bwysau i wneud penderfyniad o bosib, mae’n bwysig cymryd amser i ystyried eich dewisiadau a gwneud yn siŵr eich bod yn gwneud y penderfyniad cywir i chi.

Wrth wneud eich penderfyniad, efallai y bydd hi’n ddefnyddiol ystyried y canlynol:

  • Eich bywyd ar hyn o bryd. Beth sydd fwyaf pwysig i chi mewn bywyd ar hyn o bryd? Gall hyn gynnwys pethau fel teulu, ffrindiau, gwaith, addysg.
  • Eich dyfodol. Beth yw eich gobeithion a’ch nodau i’r dyfodol?

Mae’n bwysig eich bod yn cael cymorth pan fydd ei angen arnoch chi, ac nad ydych chi’n teimlo dan bwysau i wneud penderfyniad nad ydych chi eisiau ei wneud. Eich penderfyniad chi yw e. Mae’n gallu bod yn anodd gwybod beth i’w wneud ond mae cymorth ar gael i’ch helpu i benderfynu.

Gallwch chi ddewis:

  • Parhau â’r beichiogrwydd a bod yn rhiant
  • Dod â’r beichiogrwydd i ben drwy gael erthyliad
  • Parhau â’r beichiogrwydd a dewis mabwysiadu
Parhau A'r beichiogrwydd
Erthylu
Mabwysiadu