Ynglyn â Gonorea
Beth yw gonorea?
Mae gonorea yn haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI) a achosir gan facteria. Gonorea yw’r ail haint a drosglwyddir yn rhywiol a nodwyd amlaf yn y DU ar ôl clamydia.
Ydi Hadlif yn broblem ddifrifol yng Nghymru?
Bydd oddeutu 1,000 o achosion o’r Hadlif yn cael diagnosis yng Nghymru bob blwyddyn. Mae yna bryder byd-eang ynglŷn ag achosion cynyddol o Hadlif sy’n ymwrthol i lawer o wrthfiotigau a ddefnyddir yn gyffredin.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi rhybuddio bod rhywogaethau o hadlif na ellir eu trin yn cynyddu, gyda nifer o achosion a gadarnhawyd wedi’u hadrodd lle’r oedd gwrthfiotigau’n aneffeithiol
Pwy sydd â gonorea yng Nghymru?
Caiff ei nodi fwyaf aml mewn pobl ifanc dan 25 oed ac mewn dynion sy’n cael rhyw gyda dynion. Fodd bynnag, gall unrhyw un sydd wedi cael rhyw heb ddiogelwch ddal yr haint hwn.
Sut y gallaf ddweud os oes gan rywun gonorea?
Nid oes gan tua 1 mewn 10 dyn sydd wedi’u heintio a hanner y menywod sydd wedi’u heintio unrhyw symptomau, a gall y rhai sydd â symptomau gael rhedlif melyn neu wyrdd, ymdeimlad o losgi wrth basio wrin a phoen neu wendid yn yr abdomen (bol). Mae symptomau gonorea fel arfer yn datblygu o fewn tua phythefnos o gael eich heintio, er nad fyddant yn ymddangos weithiau am fisoedd yn ddiweddarach.
Sut allwch chi gael Hadlif?
Bydd Hadlif yn lledaenu drwy ryw heb ddiogelwch a hynny drwy’r wain, rhyw geneuol neu refrol, yn ogystal â thrwy rannu teganau rhyw sydd heb eu golchi’n briodol neu eu gorchuddio â chondom newydd.
Sut y gallaf amddiffyn fy hun rhag gonorea?
Defnyddiwch gondom bob amser. Gallwch gael condomau am ddim o’r wefan hon, gweler yma. Condomau yw’r ffordd orau o amddiffyn eich hunan ac eraill rhag gonorea a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol, gan gynnwys HIV. Os nad ydych wedi mwynhau defnyddio condomau yn y gorffennol, mae nifer o wahanol amrywiaethau ohonynt bellach wedi’u dylunio i gynyddu pleser a chynhyrfiad, cysylltwch os ydych eisiau trafod archebu condomau.
Dylech gael eich profi am gonorea yn rheolaidd os oes gennych fwy nag un partner rhywiol. Os hoffech gael unrhyw gyngor am eich risgiau i Gonorea gallwch siarad â’ch clinig iechyd rhywiol lleol, neu anfonwch e-bost atom i siarad â chynghorydd iechyd ar PHW.SexualHealth@wales.nhs.uk.
Os ydych wedi cael gonorea unwaith, gallwch ei gael eto – ac eto. Dyma pam ei bod yn bwysig cael eich profi’n rheolaidd.
Os ydw i’n credu fy mod wedi rhoi fy hun mewn risg o gonorea beth y dylwn i ei wneud?
Dylech fynd i gael cyngor gan eich clinig iechyd rhywiol lleol. Neu gallwch archebu pecyn prawf drwy ein gwasanaeth profi a phostio ar-lein yma.
Ble gallaf fynd i gael cyngor a chymorth os ydw i’n poeni am gonorea?
Mae gan GIG 111 Cymru wybodaeth eang ar eu gwefan: GIG 111 Cymru – gonorea (Saesneg). Gallwch hefyd ofyn am gyngor gan ein cynghorwyr iechyd rhywiol ar: PHW.SexualHealth@wales.nhs.uk. Neu gallwch ofyn i’ch meddyg teulu neu eich clinig iechyd rhywiol lleol.
Beth yw manteision cael eich profi am gonorea?
- Gellir gwella gonorea, felly os canfyddir bod gennych yr haint hwn, byddwch yn cael meddyginiaeth i’w wella, fel na allwch ei basio ymlaen i eraill mwyach ac na fydd yn achosi unrhyw niwed i chi eto.
- Gallwch ddal gonorea fwy nag unwaith, hyd yn oed os byddwch wedi cael eich trin ar ei gyfer o’r blaen.
- Hyd yn oed pan fyddwch yn profi’n rheolaidd, bydd defnyddio condom yn dal i helpu i’ch amddiffyn chi a’ch partneriaid rhag Gonorea a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol.
Beth os bydda i’n profi’n bositif?
Os cewch ganlyniad positif ar gyfer gonorea, byddwn yn cysylltu â chi ac yn rhoi’r canlyniad i chi. Os byddwch wedi gwneud y prawf a heb gael unrhyw canlyniadau o fewn 3 wythnos i chi anfon eich prawf, cysylltwch â ni ar: PHW.SexualHealth@wales.nhs.uk.
Gofynnir i chi drefnu apwyntiad i weld y ganolfan iechyd rhywiol o’ch dewis. Byddant yn gallu trafod y canlyniad â chi a darparu triniaeth.
A yw gonorea’n cynyddu’r risg o gael neu drosglwyddo HIV?
Ydy. Os ydych wedi cael rhyw heb ddiogelwch gallech ddal unrhyw haint a drosglwyddir yn rhywiol. Gall cael haint a drosglwyddir yn rhywiol yn ogystal â HIV eich gwneud yn fwy tebygol o drosglwyddo HIV. Mae pobl sy’n cael rhyw heb ddiogelwch gyda sawl partner yn rheolaidd yn wynebu risg uwch o ddal heintiau a drosglwyddir yn rhywiol gan gynnwys Gonorea a HIV. Gallwch leihau eich risg drwy ddefnyddio condomau ar gyfer pob gweithgarwch rhywiol a phrofi’n rheolaidd. I gael rhagor o wybodaeth ar bryd i brofi gweler y wybodaeth yma.
Profi a hunanbrofi
Os oes gennych unrhyw symptomau, dylech gysylltu â’ch clinig iechyd rhywiol lleol neu’ch meddyg teulu i gael cyngor.
Rydym yn cynnig gwasanaeth hunanbrofi GIG diogel a dibynadwy y gallwch ei archebu drwy ddefnyddio ein gwefan yma. Rhaid i chi fod yn byw yng Nghymru i gael y gwasanaeth profi hwn
Mae gwasanaethau hunanbrofi preifat eraill ar gael ar-lein ac ar y stryd fawr. Cyn defnyddio un o’r pecynnau hunanbrofi hyn, gwnewch yn siŵr bod ganddo farc sicrwydd ansawdd CE. Mae hyn yn golygu, os byddwch yn ei ddefnyddio’n gywir, bydd y prawf yn gweithio ac yn ddiogel.
Nid oes unrhyw becyn hunanbrofi yn gwbl ddibynadwy, ac nid oes sicrwydd bod prawf cartref yn addas i chi hyd yn oed os oes marc CE arno. Os ydych chi’n hunan-brofi am gonorea ac mae’r canlyniad yn bositif, mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â gweithiwr iechyd proffesiynol cyn gynted â phosibl a chael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.

