Byddwn yn symud i wefan newydd yn fuan, a phan fydd hyn yn digwydd byddwch chi’n cael eich ailgyfeirio’n awtomatig. Bydd y wefan newydd yn edrych yn wahanol, ond peidiwch â phoeni – bydd y gwasanaeth Profi a Phostio yn dal i fod ar gael fel arfer.

Mae’r diweddariad hwn yn helpu i ddod â gwybodaeth iechyd ddibynadwy at ei gilydd mewn un lle. Diolch am eich dealltwriaeth.

Os hoffech gael cip ymlaen llaw, gallwch ymweld â’r wefan newydd yma: https://beta-icc.gig.cymru/pwnc/iechyd-rhywiol-ac-atgenhedlol/

Atal Cenhedlu

Pa ddull atal cenhedlu sy'n iawn i mi?

Pa ddull atal cenhedlu sy’n iawn i mi?

Mae dulliau atal cenhedlu yn amddiffyn rhag beichiogrwydd. Mae 15 o ddulliau atal cenhedlu ar gael yn y DU ar hyn o bryd.

Mae angen defnyddio dulliau atal cenhedlu tan y menopos. Mae hyn ddwy flynedd ar ôl eich mislif diwethaf os ydych dan 50, neu flwyddyn ar ôl eich mislif diwethaf os ydych dros 50. Gall y cyngor hwn fod yn wahanol os ydych yn defnyddio dull atal cenhedlu hormonaidd. Mae’r rhan fwyaf o’r dulliau atal cenhedlu wedi’u dylunio i’w defnyddio gan fenywod. Er hyn, mae’r condom dynion yn ddewis poblogaidd o hyd.

Mae’n werth cymryd amser i ddarganfod mwy am bob dull er mwyn i chi allu dewis un sy’n gweddu i chi. O’r 15 dull, mae dau yn benodol ar gyfer dynion – y condom (dynion) allanol a diffrwythloni dynion (fasdoriad) – ac mae 13 ar gyfer menywod. Bydd y math sy’n gweithio orau i chi yn dibynnu ar eich oed, eich iechyd a’ch amgylchiadau. Er enghraifft, ydych chi eisiau gwneud atal cenhedlu yn rhan o’ch trefn ddyddiol ai peidio? Oes gwahaniaeth gennych chi os bydd eich mislif yn newid? Beth os nad ydych yn gallu defnyddio dulliau atal cenhedlu hormonaidd?

Gweler isod y gwahanol fathau o ddulliau atal cenhedlu sydd ar gael:

L.A.R.C
Parhaol
Cyn Rhyw
Dyddiol
Wythnosol
Misol
Argyfwng

A yw atal cenhedlu yn effeithio ar ffrwythlondeb yn y dyfodol?

Mae defnyddio rhai dulliau atal cenhedlu hormonaidd yn gysylltiedig ag oedi wrth ddychwelyd i ffrwythlondeb. Mae dulliau atal cenhedlu chwistrelladwy yn dangos yr oedi hiraf (pump i wyth mis). Fodd bynnag, prin iawn yw’r effaith barhaol, os o gwbl, o ddefnyddio’r dulliau hyn yn y tymor hir sydd ar y siawns o feichiogi pan fyddwch chi’n barod i roi cynnig arni.

Sut alla i ddod o hyd i wasanaeth atal cenhedlu?

Mae tri chwarter y dulliau atal cenhedlu yn cael eu darparu mewn gofal sylfaenol, a’r gweddill gan fferyllfeydd a chlinigau iechyd rhywiol. Mae atal cenhedlu brys ar gael hefyd gan eich meddyg teulu, ac mewn clinigau iechyd rhywiol a fferyllfeydd. Gallwch brynu condomau dynion a menywod mewn fferyllfeydd, yn ogystal â pheiriannau gwerthu, archfarchnadoedd, modurdai a siopau eraill.