Atal Cenhedlu Parhaol
Diffrwythloni
Mae diffrwythloni yn ddull atal cenhedlu parhaol ar gyfer pobl nad ydynt eisiau mwy o blant, neu bobl nad ydynt eisiau plant o gwbl, ac mae dros 99% yn sicr o atal beichiogrwydd. Mae’n gweithio drwy atal sberm rhag cwrdd ag wy.
Diffrwythloni dyn
Diffrwythloni dyn (fasdoriad) – Gwneir hyn drwy dorri a selio neu glymu’r fas defferens (y tiwb sy’n cario sberm o’r ceilliau i’r pidyn).
Diffrwythloni menyw
Diffrwythloni menyw (cau tiwbiau Ffalopaidd) – Gwneir hyn drwy dorri, selio neu flocio’r tiwbiau Ffalopaidd sy’n cario wy o’r ofari i’r groth.
Effeithiolrwydd: Mae fasdoriad (diffrwythloni dyn) a chau tiwbiau Ffalopaidd (diffrwythloni menyw) dros 99% yn sicr o atal beichiogrwydd.
Gosod ac anghofio: Ar ôl fasdoriad, bydd angen i chi ddefnyddio condom am o leiaf 8-12 wythnos a chael dau brawf i wneud yn siŵr bod eich sberm wedi mynd. Ar ôl cau tiwbiau Ffalopaidd, bydd angen i chi ddefnyddio dull atal cenhedlu tan eich mislif nesaf neu am dri mis ar ôl y llawdriniaeth.
Ar ôl hyn, does dim angen i chi feddwl am atal cenhedlu eto na defnyddio dulliau atal cenhedlu. Ond yn anaml iawn y mae’n bosibl gwrthdroi llawdriniaeth ddiffrwythloni, felly peidiwch â dewis yr opsiwn hwn oni bai eich bod yn hollol siŵr nad ydych eisiau plant yn y dyfodol.
Amddiffyn rhag STIs: Nac ydy. Defnyddiwch gondomau allanol neu gondomau mewnol i helpu i amddiffyn eich hun rhag STIs.

