Addysg Rhyw a Gwasanaethau Cymunedol
Addysg Rhyw a Gwasanaethau Cymunedol (SECS)
Mae SECS yn wasanaeth iechyd rhywiol yn GIG sy’n ymroddedig i gefnogi pobol ifanc 13-25 oed, ledled Gwent, trwy gyflawni gwaith diogelu, addysg ac atal.
Cymorth un i un
Gall pobl ifanc ofyn am gymorth un i un yn uniongyrchol. Fel arall, gall rhieni neu gweithwyr proffesiynol, hefyd gyfeirio ar ran y person ifanc, ar yr amod eu bod wedi cael caniatad y person ifanc.
Bydd SECS yn teilwra pecyn gofal i gefnogi anghenion y person ifanc gyda phynciau i gynnwys atal cenhedlu, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, beichiogrwydd digroeso, perthnasoedd iach, caniatad, ffiniau, camfanteisio’n rhywiol ar bobol, meithrin perthynas amhriodol a delweddau anweddus. Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth yn dilyn ymosodiad rhywiol a chwnsela os yw person ifanc yn ansicr ynghylch beichiogrwydd digroeso.
Mae dolen i’r ffurflen atgyfeirio 1-2-1 ar gael yma. Ar ôl ei chwblhau, anfonwch e-bost at abb.secs@wales.nhs.uk
Sesiynau Grŵp
Mae SECS hefyd yn darparu sesiynau grŵp ar gyfer ysgolion a sefydliadau eraill yng Ngwent. Dewiswch o bynciau amrywiol sy’n ymwneud ag iechyd rhywiol gan gynnwys atal cenhedlu, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, perthnasoedd iach, caniatad, ffiniau, meithryn perthynas amrhiodol a delwddau anweddus. Anfonwch e-bost at abb.secs@wales.nhs.uk i ddarganfod mwy.
Hyforddiant Proffesiynol
Mae hyfforddiant Card-C (C-Card) yn galluogi gweithwyr proffesiynol i ddosbarthu condomau i bobl ifanc yn eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim. Yn ystod hyfforddiant Card-C, bydd gweithwyr proffesiynol yn dysgu am hanfodion atal cenhedlu a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol fel y gallant gefnogi eu pobl ifanc yn gyfforddus. Anfonwch e-bost at gwent.ccard@wales.nhs.uk i archebu.
Clinigau Iechyd Rhywiol i Bobl Ifanc
Mae nifer o glinigau iechyd rhywiol ymroddedig i bobl dan 20 oed sy’n caniatáu i bobl ifanc gerdded i mewn ar y diwrnod heb apwyntiad a chael atal cenhedlu neu profion am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Gweler y poster isod i ddod o hyd i glinig yn agos ichi. Neu ffoniwch 01495 765065 i wneud apwyntiad ar ddiwrnod neu amser gwahanol.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaeth, anfonwch e-bost at abb.secs@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01495 363156. Sylwch fod y cyfeiriad e-bost a’r rhif ffôn hwn yn cael eu monitro o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.
Cyfryngau Cymdeithasol
Dilynwch ni ar TikTok ac Instagram (@aneurinbevanuhb) i ddysgu mwy am SECS ac iechyd rhywiol!

