Byddwn yn symud i wefan newydd yn fuan, a phan fydd hyn yn digwydd byddwch chi’n cael eich ailgyfeirio’n awtomatig. Bydd y wefan newydd yn edrych yn wahanol, ond peidiwch â phoeni – bydd y gwasanaeth Profi a Phostio yn dal i fod ar gael fel arfer.

Mae’r diweddariad hwn yn helpu i ddod â gwybodaeth iechyd ddibynadwy at ei gilydd mewn un lle. Diolch am eich dealltwriaeth.

Os hoffech gael cip ymlaen llaw, gallwch ymweld â’r wefan newydd yma: https://beta-icc.gig.cymru/pwnc/iechyd-rhywiol-ac-atgenhedlol/

Byddwn yn symud i wefan newydd yn fuan, a phan fydd hyn yn digwydd byddwch chi’n cael eich ailgyfeirio’n awtomatig. Bydd y wefan newydd yn edrych yn wahanol, ond peidiwch â phoeni – bydd y gwasanaeth Profi a Phostio yn dal i fod ar gael fel arfer.

Mae’r diweddariad hwn yn helpu i ddod â gwybodaeth iechyd ddibynadwy at ei gilydd mewn un lle. Diolch am eich dealltwriaeth.

Os hoffech gael cip ymlaen llaw, gallwch ymweld â’r wefan newydd yma: https://beta-icc.gig.cymru/pwnc/iechyd-rhywiol-ac-atgenhedlol/

Help Seicorywiol

Help Seicorywiol

Help seicorywiol

Mae hi’n gallu bod yn anodd siarad am broblemau rhywiol a phersonol, ond mae nifer o wasanaethau ar gael sy’n gallu helpu mewn ffordd gyfrinachol a chefnogol. Mae gwasanaethau seicorywiol ar gael drwy’r GIG. Mae meddygon teulu a gwasanaethau iechyd rhywiol arbenigol ar gael i drafod unrhyw broblemau sydd gan rywun yn eu bywyd rhywiol.

Mae’n syniad da mynd i weld eich meddyg teulu ynghylch unrhyw broblemau rhywiol corfforol cyn ystyried therapi seicrywiol. Gall eich meddyg teulu ganfod ai rhywbeth corfforol sy’n achosi’r broblem a bod angen triniaeth feddygol yn hytrach na thriniaeth seicolegol.

I gael gwybod am wasanaethau seicorywiol yn eich ardal chi, dilynwch y ddolen isod:

Beth yw therapi seicorywiol?

Mae therapi seicorywiol yn driniaeth sy’n seiliedig ar siarad. Mae’n cael ei ddarparu gan therapydd rhyw er mwyn helpu i fynd i’r afael â phroblemau rhywiol. Mae therapyddion rhyw yn gwnselwyr cymwys, yn feddygon neu’n weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi cael eu hyfforddi i helpu pobl sydd â phroblemau sy’n ymwneud â rhyw. Mae anawsterau rhywiol yn gallu effeithio ar unrhyw un, yn ddynion ac yn fenywod ac unrhyw rywioldeb, ac maen nhw’n fwy cyffredin na’r disgwyl.

Mae therapydd rhyw yn gallu helpu gyda phroblemau rhywiol fel:

  • diffyg awydd
  • trafferth cael orgasm
  • poen yn ystod rhyw neu fethu cael rhyw treiddiol
  • trafferth cael neu gadw codiad (problemau gyda chodiad)
  • alldaflu cynnar neu broblemau alldaflu eraill

Beth sy’n digwydd mewn therapi rhyw?

Bydd therapydd rhyw yn gwrando ar eich problem(au) ac yn asesu a allai’r achos fod yn un seicolegol, yn un corfforol neu’n gyfuniad o’r ddau.

Mae pob sesiwn therapi yn gyfrinachol. Cewch ddod i’r sesiynau ar eich pen eich hun, neu os yw’r broblem yn cynnwys eich partner, efallai y byddai’n well dod i’r sesiwn gyda’ch gilydd. Bydd siarad am eich problemau yn gwella’ch dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd a’r rhesymau posibl dros hynny. Efallai bydd y therapydd yn rhoi ymarferion i chi roi cynnig arnyn nhw gyda’ch partner yn eich amser eich hun.

Fel rheol bydd sesiwn yn para rhwng 30 a 50 munud ac efallai cewch eich cynghori i gael sesiwn bob wythnos neu bob mis gan ddibynnu ar eich problem.

Sut mae dod o hyd i therapydd rhyw?

Mae’n syniad da mynd i weld eich meddyg teulu yn gyntaf er mwyn iddo allu gweld a oes rheswm corfforol dros y broblem. Efallai bydd eich meddyg teulu yn eich atgyfeirio at therapydd rhyw os bydd yn meddwl y gallai hynny eich helpu chi. Serch hynny, nid yw therapi rhyw ar gael gan y GIG ym mhob ardal.

Gallwch hefyd fynd i weld therapydd rhyw yn breifat, ond bydd angen i chi dalu am hynny. Mae hi’n bwysig eich bod yn mynd i weld therapydd cofrestredig, cymwysedig. Chwiliwch am un sy’n aelod o’r Coleg Therapyddion Rhywiol a Pherthnasoedd (COSRT) (Saesneg) neu’r Sefydliad Meddygaeth Seicorywiol (Saesneg). Mae sefydliadau fel Relate (Saesneg) hefyd yn gallu cynnig therapi rhyw am ffi.

Yn ystod pandemig COVID-19, efallai y bydd gwasanaethau seicorywiol yn gorfod cael eu cynnig dros y ffôn neu ar fideo.

I gael gwybod am wasanaethau seicorywiol yn eich ardal chi, dilynwch y ddolen isod:

Gwefannau defnyddiol

Dewch o hyd i arbenigwr yn Ne Cymru drwy’r Sefydliad Meddygaeth Seicorywiol (Saesneg)

COSRT yw’r corff proffesiynol ar gyfer Therapyddion Seicorywiol a Pherthnasoedd yn y DU, i gael gafael ar eu therapyddion arbenigol, ewch i www.cosrt.org.uk/search-members (Saesneg).

Mae therapi rhyw yn cael ei ddarparu mewn nifer o wasanaethau Relate ar draws Cymru a Lloegr (Saesneg). I gael gwybod mwy am Relate, cliciwch y tab ‘Perthnasoedd’ ar frig ein hafan.

Mae Fumble yn elusen addysg rhyw sy’n cynnig cynnwys digidol ar ryw a pherthnasoedd. Mae’n cynnig cyngor a gwybodaeth heb feirniadaeth i bobl ifanc o bob rhyw a rhywioldeb. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.fumble.org.uk (Saesneg).