Ynglyn â HPV
Brechlyn HPV
Mae brechlyn HPV yn bwysig oherwydd ei fod yn diogelu rhag canserau a achosir gan haint papillomavirus (HPV). Mae HPV yn firws cyffredin iawn. Mae yna fwy na 200 o fathau o HPV. Gan ei fod mor gyffredin bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael eu heintio ar ryw bwynt yn eu bywyd. Ni fydd y rhan fwyaf o bobl sydd ag HPV yn datblygu symptomau na phroblemau iechyd o gwbl. Bydd y rhan fwyaf o heintiadau HPV (9 allan o 10) yn diflannu ohonynt eu hunain o fewn dwy flynedd. Ond, weithiau, bydd heintiadau HPV yn para’n hirach, a gallant achosi canserau a chlefydau eraill. Gall haint HPV achosi:
- Canserau ceg y groth, y fagina, a’r fylfa mewn merched;
- Canserau’r pidyn mewn dynion; a
- Chanserau’r anws a chefn y gwddw, yn cynnwys bôn y tafod a’r tonsilau (oropharynx), mewn merched a dynion.
Brechlyn HPV merched
Cynigir brechiad HPV (firws papilloma dynol) i bob merch 12 i 13 oed yn rhan o raglen brechu’r GIG yn ystod plentyndod. Bydd y brechlyn a ddefnyddir yn diogelu rhag dau fath o HPV, rhyngddynt yn gyfrifol am fwy na 70% o ganserau serfigol yn y DU. Nid yw’r brechlyn yn eich diogelu rhag pob math arall o HPV sy’n achosi canser, felly bydd angen i chi ddal i fynd am sgrinio serfigol rheolaidd (prawf ceg y groth) pan fyddwch yn cyrraedd yr oed priodol. Mae’r cyfuniad hwn o imiwneiddiad a sgrinio serfigol yn cynnig y diogelwch gorau posib rhag canser serfigol.
Bydd y brechlyn hefyd yn diogelu rhag dau fath arall o HPV sy’n achosi oddeutu 90% o’r achosion o ddefaid gwenerol.
I gael mwy o wybodaeth am y brechiad i ferched: Brechlyn HPV
Brechlyn HPV MSM
Mae’r brechlyn papillomavirus dynol (HPV) yn awr ar gael yng Nghymru gan glinigau iechyd rhywiol ac HIV i Ddynion sy’n cael Rhyw â Dynion (MSM) sydd hyd at ac yn cynnwys 45 mlwydd oed. Mae’r risg o ganser yr anws mewn MSM yn uwch nag mewn dynion heterorywiol. Mae hynny oherwydd nad yw MSM yn cael y diogelwch y bydd dynion heterorywiol yn ei gael gan y rhaglen imiwneiddio merched. Os ydych yn byw ag HIV, mae’r perygl hwn yn uwch eto.
Mae imiwneiddiad HPV yn ffordd effeithiol iawn o leihau eich risg o ddafadennau gwenerol a’ch risg o ddatblygu canser a achosir gan HPV.
I gael mwy o wybodaeth am y brechiad ar gyfer MSM: Brechlyn HPV MSM

