Pornograffi
Pornograffi
Gall pornograffi achosi problemau difrifol i bobl ifanc. Mae ysgolion yn cael eu hannog i ddefnyddio Addysg Perthnasoedd a Rhyw APRh i adnabod rhai o’r effeithiau negyddol y gall p ornograffi eu cael ar wylwyr. Dyma’r negeseuon allweddol a gyflwynir drwy APRh:
- gall pornograffi gyflwyno syniadau camarweiniol am ymddygiad rhywiol
- gall pornograffi niweidio’r ffordd mae pobl yn gweld eu hunain
- gall pornograffi gael effaith negyddol ar sut mae pobl ym ymddwyn tuag at eu partneriaid rhywiol
- dim ond rhyw fel gweithred gorfforol mae pornograffi yn ei ddangos, nid yng nghyd-destun perthynas gariadus
Os yw pornograffi’n cael ei wylio fel ffordd o ddysgu am ryw a deall ymddygiad rhywiol, gall roi disgwyliadau ffug, afrealistig a threisgar yn aml o ryw. N id yw’r disgwyliadau ar gyfer dynion ac ar gyfer merched yn ardd angos feydd cywir yn aml o sut mae cwpl heterorywiol neu hoyw yn ymddwyn yn ystod rhyw. Ni ddylech fyth deimlo dan bwysau i gyflawni unrhyw weithred rywiol na chymryd rhan mewn unrhyw ymddygiad rhywiol nad ydych yn hapus ag ef, neu sy’n eich gwneud yn anghyfforddus. Hefyd m ae’n bwysig cofio, ym myd porn, bod y dynion a’r merched yn aml yn anarferol o hardd a lluniaidd, sy’n gallu rhoi delwedd ffug o sut mae corff “normal” yn edrych ac yn gallu achosi delwedd corff gwael.
Dylai oedolion fod yn ymwybodol o ba mor hawdd ydyw i blant a phobl ifanc weld porn a sut i’w hamddiffyn rhag ymddygiadau afrealistig mewn pornograffi. Mae angen iddynt fod yn barod i siarad â phobl ifanc am hyn a darparu’r wybodaeth gywir, os yw pobl ifanc yn ddryslyd a/neu os oes ganddynt gwestiynau am ryw/ymddygiad rhywiol neu berthnasoedd.
Hefyd dylai oedolion fod yn ymwybodol y gall pornograffi arwain at ganlyniadau negyddol, gan gynnwys caethiwed, llai o foddhad rhywiol, gwneud i rai arferion rhywiol ymddangos yn fwy deniadol nag y byddent fel arall, mwy o hunanwrthrycholi a chywilydd o’r corff, a gall roi pwysau ar berson i gyflawni gweithredoedd rhywiol nad ydynt eisiau eu cyflawni.
Nid yw’r rhan fwyaf o fideos pornograffig yn dangos rhyw diogel. Mewn llawer o fideos ni ddangosir yr actorion yn gwisgo condomau, ond mae’r actorion hyn yn cael prawf STIs yn rheolaidd iawn. Mae’n bwysig iawn gwybod mai condomau yw’r unig ffordd o amddiffyn eich hun rhag Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol (STIs) i gael rhagor o wybodaeth am STIs cliciwch yma.

